Cofio perthynas y Frenhines Elizabeth II ag Aberfan

  • Cyhoeddwyd
Y Frenhines yn Aberfan 1966Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Frenhines ei hymweliad cyntaf ag Aberfan wyth diwrnod wedi'r trychineb

Yn ystod ei theyrnasiad fe wnaeth y Frenhines Elizabeth ymweld â phentref Aberfan bedair gwaith.

Roedd ei hymweliad cyntaf wythnos ar ôl un o'r dyddiau tywyllaf yn hanes Cymru.

Ar 21 Hydref 1966 cafodd pobl ar draws y byd eu syfrdanu a'u tristau gan drychineb Aberfan.

Am 09:15 ar y bore Gwener olaf cyn hanner tymor, fe lithrodd un o'r tomenni glo oedd uwchben y pentref ar ben Ysgol Pantglas a nifer o dai gerllaw.

Cafodd 116 o blant a 28 o oedolion eu lladd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 144 o bobl eu lladd yn y trychineb ym mis Hydref 1966

O fewn oriau i'r trychineb, daeth yr Arglwydd Snowdon - gŵr y Dywysoges Margaret - a Dug Caeredin i weld y dinistr gyda'u llygaid eu hunain.

Wyth diwrnod yn ddiweddarach aeth y Dug yn ôl i'r pentref gyda'r Frenhines. Bu'r ddau yn cerdded drwy'r pentref ac yn cwrdd â rhai o'r rhieni gollodd blant.

Roedd Bernard Thomas yn ddisgybl naw oed yn Ysgol Pantglas adeg y trychineb.

Wrth gofio ymweliad cyntaf y Frenhines, dywedodd: "Ro'dd e wedi effeithio arni, o' chi'n gallu gweld golwg shock horror ar ei hwyneb, bod shwt beth yn gallu digwydd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ail ymweliad y Frenhines ag Aberfan yn 1973 er mwyn agor y ganolfan gymunedol ar safle Ysgol Pantglas

Blynyddoedd ar ôl y trychineb fe wnaeth cyn-ysgrifennydd preifat y Frenhines, y diweddar Arglwydd Charteris, ddweud mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag a oedd y Frenhines erioed wedi gwneud camgymeriad neu gamsyniad.

Ei ymateb yn syth oedd "Aberfan".

Roedd yn credu iddo ef a'i swyddogion roi'r cyngor anghywir iddi hi i beidio ag ymweld yn syth, ond yn hytrach i aros ychydig er mwyn i'r trigolion ymgyfarwyddo â'r sioc.

"Fe wnaethom ddweud wrthi am aros draw," meddai Arglwydd Charteris, ond roedd hi'n dweud mai dyna'r peth wnaeth iddi edifar fwyaf yn ystod ei theyrnasiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn 1997 fe wnaeth y Frenhines blannu coeden yn yr ardd goffa ar safle'r ysgol

Ond dywedodd Jeff Edwards, y plentyn olaf i gael ei achub o rwbel Ysgol Pantglas, nad oedd dim i'w ddifaru a bod yr amseru yn gywir.

"Y drafferth gydag unrhyw ymweliad brenhinol ydy fod yna gymaint o bobl yn rhan o'r osgordd ac y byddai wedi hawlio'r sylw tra bod y gwaith achub yn dal i fynd rhagddo," meddai.

"Pe bai hi wedi dod yn gynt fe fyddai wedi ychwanegu at y dryswch.

"Dwi'n cofio'r angladdau a hithau'n cerdded lan yr allt i'r fynwent. Roedd hi hefyd yn fam ifanc ac i weld yn ofnadwy o drist.

"Fe gafodd yr ymweliad effaith fawr arni o ran yr hyn y gwelodd hi a'r teuluoedd wnaeth hi gyfarfod, ac fe wnaeth hynny aros gyda hi am byth."

Ffynhonnell y llun, WPA Pool
Disgrifiad o’r llun,

Jeff Edwards gyda'r Frenhines yn ystod un o'i hymweliadau ag Aberfan

Wedi marwolaeth y Frenhines, dywedodd Jeff Edwards ei fod wedi ei "dristáu'n fawr".

"Rwy'n drist i golli Brenhines mor wych. Mae'n ofidus iawn - roedd ganddi dosturi mawr a diddordeb gwirioneddol yn y gymuned," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines wnaeth agor adeilad newydd Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen yn swyddogol yn 2012

Yn ôl yr hanesydd yr Athro Martin Johnes: "Roedd hi eisiau gwneud yn siŵr bod pobl yn Aberfan yn deall bod hi'n meddwl amdanyn nhw, felly dros y blynyddoedd, mae hi wedi mynd 'nôl sawl gwaith a chymryd diddordeb yn beth o'dd yn digwydd yn Aberfan."

Roedd ymweliad nesa'r Frenhines ag Aberfan yn 1973 er mwyn agor y ganolfan gymunedol gafodd ei hadeiladu ar safle Ysgol Pantglas.

Aeth yn ôl yno ar ddau achlysur arall - yn 1997 pan blannodd goeden yn yr ardd goffa ar safle'r ysgol, ac yna i nodi'r Jiwbilî Ddiemwnt yn 2012 pan agorodd adeilad newydd Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen yn swyddogol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Brenin Charles III - Tywysog Cymru ar y pryd - oedd cynrychiolydd y teulu brenhinol yn Aberfan yn 2016

Wrth i'r pentref nodi 50 mlynedd ers y trychineb yn 2016, Y Brenin Charles III - Tywysog Cymru ar y pryd - oedd cynrychiolydd y teulu brenhinol yn y seremoni goffa, ac fe ddarllenodd neges ar ran y Frenhines i drigolion Aberfan.

O edrych yn ôl ar deyrnasiad mor hir, does dim dwywaith bod ymweliad y Frenhines ag Aberfan yn 1966 yn un o ymweliadau mwyaf dirdynnol ei theyrnasiad.