Diddordeb Dug Caeredin ym myd amaeth a chefn gwlad

  • Cyhoeddwyd
Y Frenhines a'r Dug dir Castell Balmoral, 1972Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines a'r Dug yn cerdded ymysg gwartheg ucheldir Yr Alban ar dir Castell Balmoral yn 1972

Roedd gan Ddug Caeredin ddiddordeb ym myd amaeth a chefn gwlad gydol ei oes.

Wrth i'r ystâd frenhinol yn Windsor droi'n organig, fe benderfynodd y Dug a'r Frenhines i werthu 186 o wartheg Ayreshire pedigri yn 2007 er mwyn cadw gwartheg Jersey organig yn eu lle.

Roedd Philip Reed o fferm Rhosygadair Fawr yng Ngheredigion yn un o dros 80 o ffermwyr wnaeth gais i brynu'r gwartheg.

Dywedodd Mr Reed wrth Cymru Fyw ei fod wedi cael gwybod am y gwartheg gan y Gymdeithas Ayreshire.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Philip Reed fod y Dug "mor rhwydd i siarad â"

Yn wreiddiol, roedd ganddo ddiddordeb i brynu llond dwrn, ond dywedodd y gymdeithas bod y cyfan yn gorfod cael eu gwerthu ar yr un pryd.

"Siaradais i gyda Lorenza, y wraig, a'r ateb wedd 'Na!'" meddai Mr Reed.

"Unwaith darodd [y syniad] mewn i'm mhen, wedes i y baswn i'n licio mynd i weld y da.

"Es i a fy ffrind i lan i weld nhw, a dwi'n cofio Lorenza yn dweud wrtha i beidio'r prynu'r gwartheg!"

Fe fuodd Mr Reed i Windsor ar ymweliad pellach gyda'i deulu.

"Pwy drodd lan ond y Dug!" meddai.

"Sigles i law 'da fe. Oll wedodd e oedd: 'You've got the Royal Consent. The cows are yours.'"

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Dug Caeredin ymweld â'r gwartheg yn eu cartref newydd yn 2008

Ym mis Mai 2008, fe hedfanodd Dug Caeredin i faes awyr Aberporth mewn hofrennydd er mwyn gweld y gwartheg yn eu cartref newydd yn Rhosygadair Fawr.

"Roedd e'n casáu'r fuwch Holstein - fe alwodd nhw yn 'ghastly thing'!" meddai Mr Reed.

"Roedd e mor rhwydd i siarad â. Roedd y Dug yn gwneud ei feddwl ei hunan lan.

"Mae bach o riw gyda ni lan i'r clos. Doedden nhw ddim eisiau fe gerdded lan y llethr. Fe a'th e lan drwy'r llethr fel whippet! Tynnodd ei wellingtons bant, ac roedd ei draed dan y bwrdd!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llinach frenhinol yn parhau ar fferm Rhosygadair Fawr

Er bod yr holl wartheg a brynwyd yn 2007 bellach wedi marw, mae'r llinach frenhinol yn parhau ar fferm Rhosygadair Fawr.

"Ni'n rhoi tarw Ayreshire i'r gwartheg, ac wedyn os yw ei mam neu fam-gu yn wartheg brenhinol, ni'n rhoi Windsor lawr [fel enw].

"Rhos-Windsor ac enw'r fuwch 'da ni'n rhoi ar y dystysgrif. S'dim pawb â gwartheg y Frenhines!"