Pryder buddsoddwyr yn chwe gwesty Cymreig un dyn busnes

  • Cyhoeddwyd
Gavin Woodhouse
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gavin Woodhouse yn gysylltiedig â chwe gwesty aeth i ddwylo gweinyddwyr

Mae chwe gwesty Cymreig wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gan adael cannoedd o fuddsoddwyr yn ansicr a fyddan nhw'n cael eu harian yn ôl.

Mae'r gwestai'n gysylltiedig â'r gŵr busnes, Gavin Woodhouse, sydd hefyd tu ôl i gynllun parc gwyliau antur gwerth £200m yng Nghwm Afan.

Mae buddsoddwyr wedi talu miloedd o bunnoedd am ystafelloedd unigol mewn gwestai sy'n gysylltiedig â chwmnïau Mr Woodhouse, gyda dealltwriaeth y byddai'r arian yn talu am waith adnewyddu.

Roedd addewid hefyd y byddent yn derbyn taliad blynyddol o 10%, yn ogystal â chyfle i werthu'r ystafell yn ôl i'r cwmni am 25% o elw, ymhen 10 mlynedd.

Ond dywed buddsoddwyr fod y taliadau wedi dod i ben ar ôl i'r gwestai gael eu rhoi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Yn ôl cyfreithwyr ar ran Gavin Woodhouse, bydd yn gwneud datganiad cyhoeddus unwaith y bydd rhai camau cyfreithiol wedi cael eu cwblhau.

Bellach, mae rhai gwleidyddion wedi cysylltu ag adran dwyll difrifol yr heddlu ynglŷn â'r mater.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Fourcroft Hotel yn Ninbych-y-pysgod yn un o'r gwestai dan sylw

Ym mis Gorffennaf cafodd y gweinyddwyr, Duff and Phelps, eu penodi fel rheolwyr dros dro ar nifer o gwmnïau, ar ôl i Mr Woodhouse beidio â bod yn gyfarwyddwr arnynt.

Mae'r cwmnïau'n cynnwys Northern Powerhouse Developments Ltd (NPD), a gafodd ganiatâd cynllunio amodol gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer y parc gwyliau antur ar safle 325 erw o goedwig ym Mhen-y-Bryn, Cwm Afan.

Mae'r parc yn cynnwys cynlluniau am 600 o gabanau gwyliau, gwesty 100 llofft, ac amrywiaeth o weithgareddau antur yn cynnwys atyniad yn enw'r anturiwr Bear Grylls.

Mae'r cyngor wedi rhoi chwe mis ychwanegol i gefnogwyr geisio cadw'r prosiect yn fyw.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor nad oedd Mr Woodhouse bellach yn rhan o'r prosiect hwnnw, a bod yr awdurdod yn parhau i gynnal trafodaethau gydag eraill oedd yn dal ynghlwm â'r cynllun.

Mae Duff and Phelps wedi clywed gan dros 500 o fuddsoddwyr hyd yma, ond maent yn amcangyfrif fod hyd at 1,000 o yn rhan o wahanol gynlluniau buddsoddi oedd yn cael eu rheoli gan grŵp o gwmnïau Mr Wooodhouse, ac y gallai'r buddsoddiadau fod werth rhwng £70m ac £80m.

Ar wahân i'r cynllun gwyliau antur a'r gwestai, mae'r gweinyddwyr hefyd yn ymchwilio i gynlluniau buddsoddi mewn cartrefi gofal oedd yn cael eu rheoli gan gwmnïau Mr Woodhouse.

Deëllir bod buddsoddwyr wedi prynu ystafelloedd mewn cartrefi gofal, yn yr un modd â'r gwestai. Ond mewn rhai achosion doedd y cartrefi ddim wedi cael eu hadeiladu eto.

Y chwe gwesty sy'n rhan o un o'r cynlluniau buddsoddi yw'r Fourcroft Hotel yn Ninbych-y-pysgod; y Fishguard Bay Hotel yn Wdig; gwesty Caer Rhun Hall yng Nghonwy; a'r Queen's Hotel, y Llandudno Bay Hotel, a The Belmont, oll yn Llandudno.

Mae'r gwestai yn dal ar agor ac mae'r gweinyddwyr yn gobeithio eu gwerthu fel busnesau gweithredol.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Derrick Towlson fuddsoddi yn y Fourcroft Hotel

Dywedodd un buddsoddwr, Derrick Towlson, ei fod wedi prynu ystafell yn y Fourcroft Hotel am £75,000, ar ôl gwerthu tŷ a busnes yn Sbaen er mwyn dychwelyd i'r DU i fod yn nes at ei deulu.

"Roeddan ni wedi bod yn mynd i Ddinbych-y-pysgod fel teulu ers 55 mlynedd, ac roeddan ni'n caru'r lle," meddai Mr Towlson, sy'n dod o Lysfaen yng Nghonwy.

"Mae'n le prydferth ac yn denu nifer o dwristiaid, felly roeddem yn credu y byddai ein buddsoddiad yn weddol saff.

"O edrych yn ôl, dwi'n meddwl ei fod yn wallgofrwydd llwyr, ond roedd o'n swnio mor argyhoeddiadol ar y pryd.

"Mi wnes i ymddeol yn gynnar ond mae'n edrych yn debyg y bydd rhaid i mi fynd yn ôl i weithio rŵan."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Llandudno Bay Hotel yn un arall dan berchnogaeth Mr Woodhouse

Dywedodd Sarah Bell, rheolwr gyfarwyddwr Duff and Phelps, y byddent yn gweithio i gael y pris gorau am yr asedau ond hefyd yn ymchwilio i geisio gweld lle'r oedd arian y buddsoddiadau wedi mynd ac a oedd modd ei adfer.

Dywedodd Ms Bell fod pob un o'r cynlluniau yn dangos "holl nodweddion cynllun Ponzi", lle mae taliadau'n cael eu gwneud i fuddsoddwyr cynnar trwy ddefnyddio arian buddsoddwyr mwy diweddar.

"Mae hyn am gymryd dipyn o amser i'w ddatrys, a'r cwbl fedrwn ni wneud ydy gofyn i fuddsoddwyr fod yn amyneddgar," meddai.

Mae gwleidyddion, yn cynnwys Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, a'r AS Llafur, John Mann, wedi cysylltu gydag adran twyll difrifol yr heddlu ynglŷn â'r mater.

Cadarnhaodd llefarydd ran yr heddlu eu bod yn ymwybodol o'r cyhuddiadau, ond nid oedd yn fodlon cadarnhau na gwadu a oedd ganddyn nhw unrhyw ddiddordeb yn y mater.