Cyngor eisiau atebion gan ddatblygwr parc antur Cwm Afan

  • Cyhoeddwyd
Parc Antur Pen-y-BrynFfynhonnell y llun, Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Disgrifiad o’r llun,

Roedd datblygwyr wedi dweud y byddai modd agor y mwyafrif o'r safle erbyn 2021

Mae cyngor wedi annog dyn busnes sy'n gobeithio creu parc antur gwerth £200m yn ne Cymru i ymateb i honiadau am ei fusnesau.

Galwodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar Gavin Woodhouse i ymateb i'r "pryderon fel mater o frys".

Bwriad Mr Woodhouse yw datblygu Parc Antur Cwm Afan ym Mhen-y-Bryn.

Mae ITV a'r Guardian yn gwneud sawl honiad am fusnesau Mr Woodhouse, sy'n amddiffyn ei record.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedden nhw wedi "addo na darparu unrhyw fuddsoddiad" i Mr Woodhouse na'r fenter.

'Cyfres o bryderon'

Mae'r datblygwyr yn honni y byddai'r parc yn creu dros 500 o swyddi adeiladu, a 700 swydd pan mae'n agor.

Cafodd y cynllun ganiatâd amodol gan gynghorwyr ym mis Mawrth.

Mae ymchwiliad gan ITV a'r Guardian yn amlygu "cyfres o bryderon" am Mr Woodhouse yn ymwneud â chyllid am gynlluniau eraill.

Maen nhw hefyd yn dweud bod Mr Woodhouse wedi cyfeirio at gwmnïau Jaguar Land Rover a Go Ape fel partneriaid ar y prosiect mewn deunyddiau marchnata ac erthyglau.

Yn ôl ITV a'r Guardian, er bod y cwmnïau wedi dangos diddordeb, dydyn nhw ddim mewn unrhyw "bartneriaeth swyddogol" a "does dim wedi ei arwyddo".

Mewn datganiad i BBC Cymru, dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot bod "honiadau difrifol iawn" wedi eu gwneud, gan alw ar Mr Woodhouse i ymateb iddynt.

Ychwanegodd y llefarydd nad oedd yr awdurdod wedi rhoi cefnogaeth ariannol o unrhyw fath i'r cynllun, a bod caniatâd cynllunio'n ddibynnol ar y datblygwr yn cwrdd â thelerau penodol.

Mae'r caniatâd amodol yn dirwyn i ben ym mis Medi 2019, a dywedodd y cyngor bod "dim datblygiad o nod" wedi ei gyflawni ar y telerau hyd yma.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai gan y parc westy newydd gyda 100 o ystafelloedd, yn ogystal â chabanau gwyliau pren

Mae ITV a'r Guardian yn dweud bod Mr Woodhouse yn gwadu ei fod mewn dyled i gwmni aeth i'r wal, MBI.

Yn ôl yr adroddiad dywedodd Mr Woodhouse nad yw'n gyfrifol am reolaeth MBI ers ymddiswyddo fel cyfarwyddwr yn 2016, a dydy o ddim yn gwybod sut aeth y cwmni i ddyled ers iddo adael.

Yn ôl yr adroddiad aeth arian buddsoddwyr "i gyfrifon banc", ac mae hefyd yn dweud y bydd yn ad-dalu buddsoddwyr mewn cynllun cartref gofal gydag elw o'i gwmni gwestai.

Nid oedd BBC Cymru yn gallu cysylltu â Mr Woodhouse.