Pump peth i'w wneud yn yr ardd ar gyfer yr hydref
- Cyhoeddwyd
Mae blodau'r haf wedi pylu a dail y coed yn paratoi i ddisgyn ond mae digon o fywyd ar ôl yn yr ardd a digon i'w wneud i'w pharatoi at y gaeaf, meddai'r arddwraig Carol Williams.
Gyda'r hydref wedi cyrraedd, dyma bump cyngor gan Carol am beth i'w wneud cyn y tywydd garw.
1. Casglwch yr olaf o'r aeron a'r ffrwythau
Mae'r mafon a'r mwyar yn dal i ddod, a'r afalau'n cochi ar y coed. Mae wedi bod yn flwyddyn dda iawn i aeron ac afalau eleni gyda choed o bob math yn orlawn o ffrwythau.
Y rheswm am hyn ydy'r hinsawdd gynnes â digon o law ar ddechrau'r flwyddyn pan roedd yr aeron yn cael eu ffurfio. Roedd yr haf cynnes a gwlyb yn help iddyn nhw dyfu'n hapus hefyd, yn wahanol i haf sych 2018.
2. Plannwch fylbiau
Os ydych chi eisiau plannu bylbiau ar gyfer y flwyddyn nesa', rŵan ydi'r amser i wneud. Chwiliwch am fylbiau digon o faint - y mwyaf ydy maint y bylb, yr hynaf a'r mwyaf aeddfed ydy'r bylb a fydd yn ei dro yn rhoi blodyn gwell. Gwnewch yn siŵr nad oes na bydredd neu lwydni arnyn nhw.
Mae angen plannu'r bylb yn y pridd mewn twll sydd o leiaf dair gwaith maint y bylb o ran dyfnder. Yr unig beth i'w blannu'n hwyrach ydy bylbiau tiwlips, sy'n licio tywydd oerach ac sy'n well i'w plannu tua diwedd mis Tachwedd.
3. Potio eich blodau
Gallwch godi a photio blodau fel geraniums a dod â nhw i mewn i dŷ gwydr neu'r tŷ. Bydd hyn yn eu cadw i fynd drwy'r gaeaf heb i'r gwlybaniaeth a'r rhew eu lladd a gallwch eu plannu nôl allan wedi'r gaeaf.
Os ydych chi eisiau rhoi bywyd newydd i'ch potiau dros y gaeaf, plannwch blanhigion fel yr heuchera - planhigion deiliog sydd â lliwiau gwych fel piws tywyll y Palace Purple a'r Obsidian neu rai golau fel y Limelight.
Gallwch ei roi fel canolbwynt i'ch pot a phethau tebyg i fiolas bach, cyclamen a grug efo nhw. Mae'r rheiny'n mynd i bara' i chi tan fydd y bylbiau rydych chi'n eu plannu at y flwyddyn nesa' yn dod allan.
4. Gofalu am y lawnt
Yr adeg yma o'r flwyddyn gyda'r dail yn disgyn a hithau'n mynd yn fwy gwlyb rydych chi'n mynd i gael lot o fwsog yn hel ar y lawnt dros y gaeaf. Felly ewch allan i gribinio (gallwch ddefnyddio'r dail ar gyfer compost) ac awyru'r lawnt - sticiwch fforch i fewn i'r ddaear, ei siglo nôl a 'mlaen wedyn rhoi tywod pwrpasol i fewn i'r tyllau. Gallwch fwydo'r lawnt gyda bwyd pwrpasol ar gyfer yr hydref - gofalwch edrych ar y bocs gan nad yr un bwyd ydy hwn â'r bwyd rydych chi'n ei ddefnyddio ar y lawnt yn y gwanwyn.
5. Tyfu llysiau
Os ydych chi'n meddwl ymlaen at dyfu llysiau'r flwyddyn nesa' gallwch blannu nionod a garlleg yr adeg yma o'r flwyddyn, yn enwedig os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae'r tymor tyfu yn fyr, fel Carol sy'n byw ar dir uchel yn Ninorwig, yn ardal y Wyddfa.
Fe wnawn nhw oresgyn y tywydd oer yn iawn dros y gaeaf a chael digon o amser i dyfu yn ara' deg. Bydd modd eu codi yn y gwanwyn.
Os ydych chi'n byw lle mae'r tywydd yn fwynach yna gallwch aros tan y gwanwyn cyn eu plannu ond wnaiff eu plannu yn yr hydref pan mae'r pridd yn dal yn gynnes ddim drwg iddyn nhw gan eu bod yn gallu gwrthsefyll rhew.
Os yw'r tatws yn dal i godi'n iawn yn yr ardd gallwch eu gadael yn y pridd ar hyn o bryd ond bydd angen eu codi cyn i'r rhew ddod. Gadewch nhw i sychu ar wyneb y pridd gyntaf wedyn eu cadw mewn sach iddyn nhw gael digon o awyr o'u cwmpas a'u cadw mewn lle oer a thywyll fel y garej dros y gaeaf.
Hefyd o ddiddordeb: