Cerddwr wedi marw ar ôl gwrthdrawiad car ar yr A48
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi marw ar ôl cael ei tharo gan gar ar gyrion Casnewydd.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar yr A48 yng Nghas-bach am 13:45 ddydd Mawrth.
Roedd y fenyw, a oedd yn cerdded ar y pryd, wedi cael ei tharo gan Volkswagen Fox llwyd.
Ni chafodd gyrrwr y car unrhyw anafiadau, ond bu farw'r fenyw yn y fan a'r lle.
Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i'r digwyddiad.
Mae'r llu wedi apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn defnyddio'r ffordd rhwng Coal Pit Lane a Marshfield Road ddydd Mawrth i gysylltu â nhw.