Mwyafrif ysgolion uwchradd Sir y Fflint mewn dyled
- Cyhoeddwyd
Bydd cynghorwyr Sir y Fflint yn trafod adroddiad ddydd Iau sy'n dweud bod mwyafrif ysgolion uwchradd y sir mewn dyled.
Mae pryderon wedi'u lleisio wedi i'r adroddiad ddweud bod saith o'r 11 ysgol uwchradd mewn dyled, a bod cyfanswm y ddyled yn £1.45m.
Y ddyled fwyaf ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2018-19 yw un Ysgol Treffynnon, sef £646,000.
Daeth y manylion i'r amlwg wedi i'r corff arolygu ysgolion Estyn nodi bod Cyngor Sir y Fflint wedi caniatáu i rai ysgolion ysgwyddo dyled am rhy hir.
Mae swyddogion addysg yr awdurdod wedi rhoi'r bai yn rhannol ar doriadau o lywodraeth ganolog.
Sefyllfa yn newid
Dywedodd Claire Homard, prif swyddog addysg ac ieuenctid yr awdurdod, bod gostyngiad yn nifer y disgyblion mewn ysgolion uwchradd hefyd wedi cyfrannu at y broblem.
"Mae nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y sefyllfa ariannol bresennol," meddai
"Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer y disgyblion uwchradd wedi lleihau tra bod nifer y disgyblion cynradd wedi cynyddu, gan arwain at ailddosbarthu cyllid rhwng y ddau sector.
"Fodd bynnag mae'r tueddiad yma bellach yn gwyrdroi gyda nifer y disgyblion uwchradd ar i fyny, a bydd hynny'n cael effaith ariannol bositif ar y sector uwchradd wrth fynd ymlaen."
Tasglu arbennig
Mae'r cyngor wedi sefydlu tasglu arbennig i ateb rhai o'r pryderon gafodd eu codi gan Estyn.
Dywedodd yr awdurdod y gallai'r gweddill ariannol o £1.3m ar draws yr holl ysgolion gael ei ailddosbarthu i'r rhai sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, er y gallai hynny osod "heriau sylweddol".
Rhybuddiodd Ms Homard y gallai mwy o ysgolion fynd i ddyled os na fydd eu cyllid yn cynyddu.
Bydd aelodau o Bwyllgor Craffu Addysg a Phobl Ifanc Cyngor Sir y Fflint yn trafod yr adroddiad ddydd Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd16 Mai 2019
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2018