Awgrym fod myfyrwyr yn yfed llai o alcohol

  • Cyhoeddwyd
alcoholFfynhonnell y llun, BBC

Mae 'na arwyddion cynyddol bod mwy a mwy o fyfyrwyr yn troi eu cefnau ar alcohol.

Dywedodd dros 1,500 o fyfyrwyr newydd ym Mhrifysgol Abertawe eleni eu bod nhw naill ai eisiau neu y byddai well ganddyn nhw fyw mewn neuaddau di-alcohol.

Mae hynny'n gyfystyr a tua 25% o'r rheiny wnaeth gais am lety.

"Dwi'n meddwl ei fod o'n anodd i ddechrau, chi wir yn gorfod bod yn ddewr i sefyll lan i'r diwylliant," meddai Peter Barnes, sy'n fyfyriwr peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe.

Cynnig llety di-alcohol

Ond mae'n meddwl bod nifer y myfyrwyr fel ef, sydd ddim yn yfed alcohol, ar gynnydd.

"Dw i'n meddwl bod mwy a mwy o bobl yn penderfynu yfed llai am wahanol resymau, er mwyn ceisio edrych ar ôl eu hiechyd a phethau fel 'na," meddai.

Yn ôl gwaith ymchwil gan brifysgol UCL yn Llundain mae dros draean y bobl rhwng 16 a 24 sydd mewn addysg llawn amser yn gwrthod yfed alcohol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Peter Barnes fod angen "bod yn ddewr i sefyll lan i'r diwylliant"

Fe gynigodd Prifysgol Bangor lety di-alcohol am y tro cyntaf eleni.

O'r prifysgolion eraill yng Nghymru, mae prifysgol Met Caerdydd a Phrifysgol De Cymru yn cynnig llety di-alcohol.

Maen nhw'n dweud eu bod wedi gweld cynnydd yn y galw am lety di-alcohol.

Mae Prifysgol Caerdydd yn dweud nad ydyn nhw'n diystyru cyflwyno llety di-alcohol yn y dyfodol, ond does ganddyn nhw ddim llety o'r fath ar hyn o bryd.

Dydy Prifysgol Aberystwyth na Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam ddim yn cynnig llety di-alcohol chwaith.

Ffynhonnell y llun, PA

I Wiktoria Rozanska, myfyriwr rheolaeth busnes yn ei thrydedd flwyddyn sy'n wreiddiol o Wlad Pwyl, mae hi wedi penderfynu peidio yfed alcohol oherwydd ei bod hi'n awyddus i sicrhau'r radd gorau posib.

"Dwi o dramor, felly dydw i ddim eisiau gwastraffu'r cyfle yma," meddai.

"Dwi eisiau bod yma, dwi eisiau canolbwyntio ar astudio gymaint â phosib yn hytrach na mynd allan ac yfed a gwastraffu amser.

"Cyn i mi ddod i'r brifysgol, mi oeddwn i'n yfed yn achlysurol. Rŵan dydw i ddim yn yfed o gwbl."

Mae rhai yn gweld cyfle busnes o'r tueddiadau.

Ystadegau 'anhygoel'

Mae Joelle Drummond a Sarah McNena wedi sefydlu cwmni Drop Bear Beer Co., sy'n cynhyrchu cwrw di-alcohol yn unig.

"Mae'r galw yn sicr yno. Mae'r ystadegau yn anhygoel," meddai Ms McNena.

"Fe wnaeth ein prif gystadleuydd dyfu 770% y llynedd, felly os nad ydy hynny'n dangos i chi, dwi ddim yn gwybod be' sydd.

"Mae mwy a mwy o bobl - dw i'n meddwl tua 50% o Brydeinwyr - eisiau cymedroli faint maen nhw'n ei yfed neu stopio yfed yn gyfan gwbl."

'Cymaint mwy i'w wneud'

Yn ôl Ms Drummond, sydd newydd raddio o'r brifysgol, mae myfyrwyr sy'n meddwl dwywaith am yfed yn rhan fawr o'r newid mewn agweddau at alcohol.

"Dwi ddim yn amau bod yna ddiwylliant yfed mawr sydd dal i fodoli mewn cymdeithas ac yn y brifysgol," meddai.

"Dim ond newydd raddio ydw i ac mi oeddwn i yn sicr yn yfed ar y pryd.

"Ond mae pobl yn ymwybodol bod disgwyl iddyn nhw wneud cymaint yn rhagor yn y brifysgol nawr, dyw hi ddim yn ddigon i droi lan i'r darlithoedd yn unig.

"Mae rhaid cymryd rhan a gwneud gweithgareddau eraill, a dyw pobol ddim eisiau talu am yr alcohol - mae'n rhy ddrud."