Tywydd yn dod â gobeithion dyrchafiad Morgannwg i ben

  • Cyhoeddwyd
cookeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd capten Morgannwg, Chris Cooke, yn siomedig ond yn bositif

Ni fydd tîm criced Morgannwg yn esgyn i adran gyntaf Pencampwriaeth y Siroedd eleni wedi i'r tywydd orfodi diwedd cynnar i gêm olaf y tymor.

Roedd Morgannwg angen buddugoliaeth yn eu gêm yn erbyn Durham yn Chester-le-Street - a gobeithio fod Sir Gaerloyw yn colli eu gêm olaf nhw - os oedden nhw am ennill dyrchafiad.

Wedi i'r ddwy gêm gael eu heffeithio gan dywydd drwg dros y tridiau cyntaf, fe gafodd y penderfyniad ei wneud yn gynnar dydd Iau i ddod â'r ddwy i ben yn gynnar.

Mae hynny'n golygu bod y ddwy gêm wedi gorffen yn gyfartal, gan na fu unrhyw chwarae ar y diwrnod olaf.

'Chwarae'n well'

Y tri thîm fydd yn esgyn i'r adran gyntaf felly yw Sir Gaerhirfryn, Sir Northampton a Sir Gaerloyw, gyda Morgannwg yn gorffen yn y pedwerydd safle.

Er y siom, roedd capten Morgannwg, Chris Cooke, yn ceisio bod yn bositif.

"Roedden ni am chwarae criced gwell y tymor hwn, ac ry'n ni wedi llwyddo i wneud hynny," meddai.

Fe orffennodd Morgannwg ar waelod y tabl ar ddiwedd y tymor diwethaf.