Teyrnged teulu i gontractwr a fu farw ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae teulu Justin Peter Day wedi rhoi teyrnged iddo yn dilyn digwyddiad yng ngwaith dur Port Talbot ddydd Mercher.
Bu farw Mr Day, 44 oed o Lansamlet, Abertawe, ar ôl digwyddiad yn ymwneud â pheirianwaith.
Mewn teyrnged dywed ei deulu ei fod yn "ddyn teuluol oedd yn caru ei deulu cymaint ac yn gweithio'n galed er mwyn sicrhau'r gorau i'w deulu".
"Roedd yn dad oedd yn dotio ar ei ferch Keeley ac yn addoli ei wyres Lyla-Jay.
"Yn gefnogwr rygbi brwd, yn cefnogi'r Gweilch a Chymru, roedd wedi bod yn edrych ymlaen yn eiddgar at Gwpan y Byd.
"Roedd mor falch o'i feibion Korey a Kaylan, gan fwynhau nhw'n chwarae rygbi - Korey yn chware i dîm ieuenctid Faerdre a Kaylan i Fôn-y-maen dan-13.
"Fe fydd ei deulu'n ei golli'n fawr."
Roedd Mr Day yn gweithio i gontractwyr Mii Engineering o Fedwas, Sir Caerffili.
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng Heddlu'r De a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Tata: "Mae ein meddyliau gyda theulu a chyfeillion y dyn.
"Mae ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal."
'Pawb wedi'u llorio'
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyllid Mii Engineering, Matthew Moody fod y cwmni "wedi'i lorio" yn dilyn y digwyddiad.
"Rwyf wedi siarad gyda sawl person y bore 'ma ac mae pawb wedi'u llorio.
"Mae ein meddyliau i gyd gyda'i deulu, ffrindiau a chydweithwyr ar hyn o bryd," meddai.
Ychwanegodd Mr Moody fod y cwmni hefyd yn cynnal ymchwiliad.
Yn y cyfamser, fe wnaeth gweithiwr arall ddioddef man anafiadau mewn digwyddiad arall yn y gwaith dur ar yr un diwrnod.
Cafodd driniaeth gan barafeddygon ond nid oedd angen mynd ag ef i'r ysbyty. Deellir iddo gael anaf i'w ben.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2019