Dau ddyn yn pledio'n euog i fewnforio 750kg o gocên
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi pledio'n euog i gyhuddiad o fewnforio cocên yn dilyn un o'r darganfyddiadau mwyaf o'i fath mewn hanes ar foroedd y DU.
Fe wnaeth yr Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol (NCA) ddarganfod 751kg o'r cyffur ar gwch hwylio - yr SY Atrevido- ger Abergwaun, Sir Benfro.
Mewn cyrch oedd wedi'i threfnu, fe gafodd y cwch llawn cyffuriau ei stopio gan HMS Protector gyda swyddogion o'r NCA ar ei bwrdd.
Fe gafodd Gary Swift, 53, a Scott Kilgour, 41, y ddau o Lerpwl, eu harestio ar fwrdd y cwch a oedd wedi hwylio o Suriname, De America.
Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, fe wnaeth y ddau gyfaddef mewnforio'r cyffur.
Mae'r NCA wedi amcangyfrif bod gwerth y cyffuriau ar y stryd yn £60m, y cyfanswm mwyaf sydd erioed wedi'i feddiannu gan yr awdurdodau ar foroedd y DU.
Bydd y ddau ddyn yn cael eu dedfrydu ar 28 Rhagfyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2019
- Cyhoeddwyd28 Awst 2019