Dedfrydu 21 aelod o gang oedd â gwerth £6m o ganabis

  • Cyhoeddwyd
GangFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 20 o'r diffynyddion ddedfryd o garchar

Mae tri o arweinwyr gang cyffuriau wedi cael eu carcharu am gyfanswm o 19 mlynedd wedi i'r heddlu eu canfod â gwerth £6m o ganabis.

Mae cyfanswm o 21 o bobl wedi cael eu dedfrydu'n ymwneud â'r achos, wedi i ddwsinau o "ffatrïoedd canabis" gael eu darganfod ar draws de Cymru.

Roedd un o'r diffynyddion wedi honni ei fod yn 14 oed, ond fe lwyddodd yr heddlu i brofi ei fod yn 26 mewn gwirionedd.

Cafodd arweinwyr y gang, oll o Vietnam, eu dedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Gwener.

Fe gafodd Bang Xuan Luong, 44, ei ddedfrydu i wyth mlynedd o garchar, tra bod ei gariad Vu Thi Thu Thuy, 42, wedi'i charcharu am chwe blynedd.

Cafodd Tuan Anh Pham, 20, gafodd ei ddisgrifio fel arbenigwr technoleg gwybodaeth y gang, ei ddedfrydu i bum mlynedd dan glo.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dwsinau o "ffatrïoedd canabis" eu darganfod ar draws de Cymru

Fe wnaeth ymchwiliad i "ffatri ganabis" yng Nghwm Cynon arwain swyddogion Heddlu De Cymru i nifer o rai eraill ar draws eu hardal nhw, yn ogystal â Gwent a Dyfed-Powys.

Yn ystod gwrandawiadau yn Llys y Goron Merthyr Tudful fe wnaeth 19 o'r 23 diffynnydd bledio'n euog i gynhyrchu cyffur dosbarth B.

Cafwyd dau o'r 23 yn euog gan reithgor tra bo'r ddau arall wedi'u cael yn ddieuog.

Clywodd y llys bod y gang wedi gwneud tua £25m trwy werthu cyffuriau, gyda llawer o'r arian hynny wedi'i yrru 'nôl i Vietnam.

Dywedwyd wrth y llys hefyd bod mwyafrif y gang wedi dod i'r DU yn anghyfreithlon gyda dogfennau ffug.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr heddlu gynnal 17 cyrch fel rhan o'u hymgyrch ar ddiwedd 2017

Y dedfrydau'n llawn:

  • Bang Xuan Luong, 44, o Aberdâr - wyth mlynedd o garchar

  • Lan Dinh, 38, o Lanelli - pedair blynedd a dau fis

  • Tuan Van Doan, 33, o Gaerffili - dwy flynedd

  • Tran Van Giang, 32, o Aberdâr - tair blynedd

  • Quang Lam, 34, o Lanelli - pum mlynedd

  • Toan Van Nguyen, 39, o Aberdâr - pedair blynedd a naw mis

  • Hiue Quang Pham, 29, o Gaerdydd - dwy flynedd

  • Pham Quang Hai, 19, o Geredigion - dwy flynedd a thri mis

  • Tuan Anh Pham, 20, o Aberdâr - pum mlynedd

  • Vu Thi Thu Thuy, 41, o Aberdâr - chwe blynedd

  • Van Lang Tran, 24, o Gaerdydd - dwy flynedd

  • Xuan Le Truong, 31, o Gaerdydd - dwy flynedd

  • Doan Duc Vu, 40, o Lanelli - pedair blynedd

  • Dung Phu Vu, 35, o Aberdâr - dwy flynedd a phedwar mis

  • Dung Van Vu, 27, o'r Rhondda - pum mlynedd a phum mis

  • Ngocbao Vu, 22, o Aberdâr - chwe blynedd a phum mis

  • Toan Van Vu, 52, o Gaerdydd - tair blynedd a chwe mis

  • Khanh Van Pham, 26, o Gasnewydd - pedair blynedd a 10 mis

  • Khuong Van Luong, 35, o Gaerdydd - dwy flynedd

  • Vu Phung Luu, 19, o Aberdâr - dwy flynedd ac wyth mis

  • Trang Thanh Tran, 37, o Lanelli - carchar am ddwy flynedd, wedi'i ohirio am flwyddyn