Ymdrechion i leihau plastig mewn siop yn Llangefni

  • Cyhoeddwyd
peiriant siop spar LlangefniFfynhonnell y llun, Siop Ellis Spar
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r peiriant cyflenwi llaeth wedi profi'n boblogaidd hyd yma

Mae siop ar Ynys Môn yn ceisio lleihau'r defnydd o blastig drwy gael cwsmeriaid i ddefnyddio peiriant cyflenwi llaeth.

Dywed Paul Ellis, sy'n rheoli Siop Ellis Spar yn Llangefni gyda'i bartner Leonie Gaulton, fod y syniad yn "un hynod o boblogaidd".

Yn hytrach na phrynu llaeth mewn cynhwysyddion plastig, gall cwsmeriaid naill ai brynu poteli gwydr o laeth neu lenwi eu cynhwysyddion eu hunain o'r tanc 14 litr (24 peint) sydd wedi'i leoli yn y siop.

Dywed Mr Ellis ei fod yn gobeithio y bydd y cynllun yn gwneud "gwahaniaeth mawr".

'Un cam bach yn bwysig'

Wythnos yn unig ar ôl cael y tanc, sy'n cynnwys llaeth hanner sgim lleol, dywed Mr Ellis ei fod yn gorfod llenwi'r tanc ddwy neu dair gwaith y dydd.

"Y wraig gafodd y syniad," meddai.

"Mae hi wedi bod yn brysur iawn yma. Mae rhai pobl wedi cysylltu efo ni o Ganada, Iwerddon a Sweden. Dydy o ddim yn syniad chwyldroadol ond mae o'n ddechrau."

Yn ogystal mae modd i gwsmeriaid fynd â phacedi creision, brwsys dannedd a phapur melysion i'r siop er mwyn eu hailgylchu.

Ychwanegodd Mr Ellis: "Cawn weld sut mae petha'n mynd a gweld ymhen rhai wythnosau a oes lle i ehangu. Gobeithio y bydd 'na.

"Dwi'n meddwl ei fod yn gwneud gwahaniaeth. Does dim rhaid i bawb wneud gwahaniaeth mawr ond rhaid i lawer o bobl wneud gwahaniaeth bach."