Pryderon cynyddol am ailgylchu plastig amaethyddol

  • Cyhoeddwyd
Piles of rubbish
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i ffermwyr gael gwared ar blastig yn y ffordd iawn wedi blwyddyn

Mae ffermwyr yng Nghymru yn poeni bod hi'n mynd yn anoddach i ailgylchu plastig amaethyddol.

Daw hyn wedi i'r unig gwmni oedd yn canolbwyntio'n llwyr ar gasglu plastig amaethyddol ar draws Cymru gyfan benderfynu atal casgliadau am flwyddyn.

Yn ôl cwmni Birch Farm Plastics, sydd wedi'i leoli ger Pontardawe, mae costau newydd sydd wedi eu cyflwyno gan safleoedd ailgylchu yn golygu nad yw hi'n ymarferol iddyn nhw barhau i gasglu plastig amaethyddol.

Dywedodd llefarydd hefyd bod angen gwneud mwy i annog safleoedd ailgylchu i dderbyn rhagor o blastig amaethyddol.

Roedd Birch Farm Plastics yn arfer defnyddio cwmni ailgylchu yn Rhymni ond mae'r cwmni hwnnw bellach yn codi pris wrth y gât yn hytrach na chynnig taliadau am blastig amaethyddol.

Mae'r gost yna'n cael ei phasio ymlaen i ffermwyr sydd eisoes yn bryderus am y costau sy'n gysylltiedig â chael gwared â'u plastig.

Disgrifiad o’r llun,

Craen yn tyrchu drwy blastig amaethyddol

Mae grŵp RPC bpi sy'n rhedeg y safle yn Rhymni wedi cadarnhau bod y gwaharddiad mewnforio plastig diweddar yn China yn golygu bod plastig glanach ar gael ar y farchnad yn y Deyrnas Unedig - hynny o'i gymharu â phlastig amaethyddol sydd fel arfer wedi ei lygru hyd at 60%.

Mae rhai ffermwyr wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod nhw'n poeni am sut mae cael gwared â'u plastig.

Yn ôl y rheolau mae hawl ganddyn nhw gadw'r plastig ar eu ffermydd am 12 mis, ond wedi hynny mae'n rhaid cael gwared arno yn y ffordd gywir.

'Dyletswydd ar ffermwyr'

Un o'r ffermwyr sy'n poeni yw Mathew Jones, ffermwr o Nantgaredig ac fe ddywedodd wrth y Post Cyntaf bod 'na siarad ymhlith ffermwyr am gladdu a llosgi plastig oherwydd y gost, ond y byddai'n well gan ffermwyr ailgylchu gwastraff plastig.

Haf diwethaf dywedodd y Gweinidog Amgylchedd ar y pryd, Hannah Blythyn, bod yna fesurau i daclo gwastraff plastig a'i bod hi'n "bwysig gweithio gyda ffermwyr" i ddelio â'r sefyllfa.

Ond pan ofynnodd BBC Cymru pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd yn ystod y 10 mis diwethaf i ddelio â gwastraff plastig ar ffermydd, fe ddywedon nhw: "Mater masnachol rhwng ffermwyr, casglwyr gwastraff plastig a'r safleoedd sy'n gallu ac sydd yn ei ailgylchu yw cael gwared ar blastig amaethyddol.

"Mae yna ddyletswydd ar ffermwyr i sicrhau bod plastig yn cael eu gwaredu yn y ffordd gywir."

Fe ddywedodd NFU Cymru ei bod hi'n bwysig bod ffermwyr a Llywodraeth Cymru yn cydweithio gydag asiantaethau eraill i ddatrys y sefyllfa.