Sylw Nigel Farage 'ddim yn drosedd' medd Heddlu Gwent

  • Cyhoeddwyd
Nigel Farage yng nghynhadledd Plaid Brexit yng Nghasnewydd ar 21 MediFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwnaeth Nigel Farage y sylw yng nghynhadledd Plaid Brexit yng Nghasnewydd ar 21 Medi

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau na fydd yna gamau pellach yn erbyn arweinydd Plaid Brexit ar ôl derbyn cwynion ynghylch sylw ganddo yng nghynhadledd y blaid yng Nghasnewydd wythnos yn ôl.

Cafodd Nigel Farage ei recordio'n dweud wrth gynadleddwyr a chefnogwyr yn Theatr Neon, gan gyfeirio at weision sifil, 'we'll take the knife to them' unwaith roedd Brexit wedi ei wireddu.

Dywedodd hynny wrth fynegi rhwystredigaeth gyda gweision sifil roedd yn eu disgrifio fel 'clercod yn Whitehall sy'n cael gormod o dâl, ac sydd ddim yn niwtral wrth eu gwaith".

Roedd un aelod o Senedd Ewrop yn dadlau bod y sylwadau "yn annog trais".

Mae fideo o'i araith wedi ei rannu ar-lein ers dydd Sadwrn diwethaf, gan arwain at nifer o gwynion i Heddlu Gwent ynghylch y sylwadau.

Fe gyhoeddodd Mr Farage neges ar ôl hynny'n dweud y dylid fod wedi defnyddio'r geiriau 'take the axe' fel term mwy traddodiadol i gyfleu toriadau ariannol.

Mae'r heddlu bellach wedi ymateb eu bod yn ymwybodol o densiynau dwysach ynghylch y defnydd o iaith, ond wedi asesiad manwl bydd yna ddim camau cyfreithiol gan nad ydy'r sylw yn y fideo yn torri'r gyfraith.