'Cefnogwyr traddodiadol Llafur yn ffafrio Johnson'
- Cyhoeddwyd
Mae seddi Llafur yng nghymoedd y de "dan fygythiad" gan y Ceidwadwyr mewn Etholiad Cyffredinol, yn ôl Byron Davies, cadeirydd y blaid yng Nghymru.
Dywedodd Mr Davies bod cefnogwyr traddodiadol y Blaid Lafur, sydd yn cefnogi gadael yr Undeb Ewropeaidd, am bleidleisio dros Boris Johnson.
Wrth siarad â BBC Cymru yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion, dywedodd: "Y peth anhygoel yw, mae'r seddi yn y cymoedd, mae yna bobl fyddech chi byth yn disgwyl i bleidleisio dros y Ceidwadwyr, ond mae nhw'n edmygu beth mae Boris Johnson yn ei wneud ar y funud - mi wnawn nhw ei gefnogi a phleidleisio dros y Ceidwadwyr.
"Felly ydw, rwy'n credu bod 'na seddi yn y cymoedd dan fygythiad, mewn ardal sydd wedi bod yn cefnogi'r Blaid Lafur yn draddodiadol."
Fe alwodd y Llywodraeth am Etholiad Cyffredinol wythnos ddiwethaf, ond fe gafon nhw eu trechu yn Nhy'r Cyffredin.
Mae Llafur wedi dweud nad ydyn nhw am gael Etholiad Cyffredinol nes bod modd atal Brexit di-gytundeb.
Adennill seddi
Ddechrau mis Medi roedd Byron Davies yn un o'r rhai a gafodd eu gwahodd i Dŷ'r Arglwyddi wedi iddo gael ei gynnwys yn anrhydeddau ymddeol Theresa May.
Fe gollodd sedd Gŵyri 'r Aelod Seneddol Llafur, Tonia Antoniazzi, yn 2017.
Dywedodd ei fod yn hyderus y bydd y sedd yna yn mynd yn ôl i ddwylo y Ceidwadwyr, ynghyd â seddi eraill gafodd eu colli i Lafur.
Dywedodd: "Fe ddaw sedd Gŵyr yn ol i'n dwylo ni, does dim cwestiwn am hynny."
Mae'r blaid yn hyderus y gallan nhw ailennill seddi y maent wedi eu cynrychioli yn y gorffennol fel Gŵyr, Dyffryn Clwyd, Gogledd Caerdydd , Wrecsam a Gorllewin Abertawe.
Yn y gynhadledd fe ailadroddodd y Prif Weinidog, Boris Johnson, ei addewid i wireddu Brexit ar ddiwedd mis Hydref, a hynny os oes cytundeb newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd neu beidio.
Daw hyn wrth i'r Prif Weinidog o bosib wynebu pleidlais o ddiffyg hyder gan y gwrthbleidiau.
Mae Llafur yn dweud mae eu blaenoriaeth yw atal Prydain rhag gadael yr UE heb gytundeb.
Yr wythnos ddiwethaf fe bleidleisiodd llafur i aros yn niwtral ar bwnc Brexit wrth geisio sicrhau cytundeb newydd gyda'r UE.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2019
- Cyhoeddwyd4 Medi 2017