Diweddaru rhybuddion am fwy o law trwm yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi diweddaru rhybuddion tywydd am Gymru dros yr oriau nesaf.
Roedd glaw trwm eisoes wedi achosi trafferthion ar draws y de a'r canolbarth ddydd Sul, ac mae rhybudd arall am law trwm wedi dod i rym brynhawn Llun.
Yn wreiddiol, roedd y rhybudd melyn yma mewn grym o 15:00 ddydd Llun tan brynhawn Mawrth.
Bellach mae'r rhybudd cyntaf yn rhedeg o 15:00 tan hanner nos ddydd Llun, ond yna mae rhybudd melyn arall yn dod i rym am 06:00 ddydd Mawrth ac yn weithredol tan 20:00 dydd Mawrth.
Yn hytrach na de ddwyrain Cymru yn unig, mae'r rhybudd melyn yn weithredol ar draws de Cymru i gyd.
Yn dilyn llifogydd nos Sul, mae lefel Afon Tywi yng Nghaerfyrddin yn parhau yn uchel.
Mae Cyngor Sir Gâr yn dweud bod perygl o lifogydd yn Llangennech, Cydweli, Pentywyn a Llansteffan.
Yn Abergwili mae ymgais i achub tua 20 o wartheg o lifogydd wedi eu hatal am y noson. Roedd ymgais y gwasanaethau brys a'r ffermwr i'w hannog i ddiogelwch yn aflwyddiannus.
Ym Mhowys mae'r A490 ar gau ger Pentre'r Beirdd oherwydd tirlithriad yno wedi'r glaw.
Ar draws de Cymru mae 14 rhybudd coch am lifogydd mewn grym, a dros 20 o rybuddion oren i baratoi am lifogydd.
Mae manylion llawn y rhybuddion yma ar dudalen arbennig ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2019
- Cyhoeddwyd28 Medi 2019