Beirniadu Plaid Cymru am wrthwynebu cerydd Leanne Wood
- Cyhoeddwyd
Mae aelod o'r corff wnaeth argymell ceryddu Leanne Wood am dorri cod ymddygiad y Cynulliad wedi dweud fod Plaid Cymru yn anghywir am wrthwynebu'r penderfyniad.
Fe wnaeth cyn-arweinydd Plaid Cymru dorri'r cod ymddygiad wrth ddefnyddio gair rheg i feirniadu blogiwr, yn ôl y pwyllgor safonau.
Fe gyhoeddodd Ms Wood y neges ar Twitter mewn ymateb i feirniadaeth gan Royston Jones, sy'n blogio dan yr enw Jac o' the North, ynglŷn â'r AC Delyth Jewell.
Yn dilyn ymchwiliad Syr Roderick Evans fe gytunodd y pwyllgor safonau'n unfrydol gyda'i gasgliadau fod y trydariad yn groes i'r cod safonau, gan argymell ceryddu Ms Wood - penderfyniad fydd angen cydsyniad y Cynulliad.
Iaith 'sarhaus'
Mae'r pwyllgor safonau yn cynnwys yr AC Llafur, Jane Bryant, AC Plaid Cymru, Helen Mary Jones, y Ceidwadwr Andrew RT Davies a'r aelod Plaid Brexit David Rowlands.
Yn eu hadroddiad, dywedodd y pwyllgor eu bod yn "credu'n gryf" y dylid herio camdriniaeth ar-lein, gan ychwanegu nad yr "ymateb addas i ddelio gyda hynny ydy defnyddio iaith all rhai pobl ei ystyried yn sarhaus".
Dywedodd Mr Rowlands na ddylai pleidiau gytuno ar sancsiynau ond pan maen nhw yn eu siwtio nhw.
Ychwanegodd nad oedd yn "iawn" i Blaid Cymru wrthwynebu'r cerydd, gan ofyn os oedd y blaid yn cwestiynu'r rheolau ar gyfer ACau.
Dywedodd Ms Wood nad oedd hi'n difaru cyhoeddi'r neges ar Twitter gan ddweud ei bod hi'n ymateb i sylwadau gan "fwli câs".
Bydd ACau yn pleidleisio ddydd Mercher ar argymhellion y pwyllgor safonau trawsbleidiol i roi cerydd swyddogol i Ms Wood.
Mae Plaid Cymru wedi dweud nad ydyn nhw'n cytuno gyda'r cerydd, ond nid yw'n glir a fyddan nhw'n pleidleisio yn ei erbyn neu'n ymatal eu pleidlais.
Bydd y penderfyniad hynny'n cael ei wneud mewn cyfarfod ddydd Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2019
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2019