W J Edwards wedi marw yn 83 oed
- Cyhoeddwyd
Bu farw'r gweinidog a'r ymgyrchydd, y Parchedig W J Edwards, yn 83 oed.
Bu'n weinidog ar yr Hen Gapel, Llanuwchllyn am 25 o flynyddoedd cyn symud i fod yn Weinidog yng Nghapel y Priordy yng Nghaerfyrddin a chapeli eraill yr ardal.
Er iddo ymddeol yn swyddogol yn 2001, a symud i Bow Street ger Aberystwyth i fyw, fe ymgymerodd â'r gwaith bugeilio ar nifer o gapeli yng nghyffiniau Machynlleth nes 2011.
Wrth roi teyrnged iddo dywedodd ei gyfaill y Parch. Hywel Wyn Richards ei fod yn "gyfaill da iddo fe ac i bobl ei ofalaeth ar hyd y blynydde".
"Roedd y bywyd crefyddol, diwylliannol, a chymdeithasol yn plethu drwy'i gilydd iddo fe," meddai, "do'dd crefydd ddim ar wahân i bopeth o ddydd i ddydd."
Dyn gweithgar
Fe ddisgrifiodd 'Bill', fel yr oedd yn cael ei adnabod gan ei ffrindiau, fel "matchen", a oedd yn teimlo'n gryf am bethau.
"Roedd e'n weithgar iawn dros Gymdeithas yr Iaith a Phlaid Cymru yn y 60au a'r 70au," meddai.
"Dwi'n cofio un achlysur pan a'th Bill a'r diweddar Barchedig TJ Davies allan i'r Almaen gyda chriw o bobl ifanc yn ystod cyfnod y Rhyfel Oer.
"O'dd e wedi mynnu sgwennu yn y Gymraeg ar ddogfennau oedd ganddyn nhw, ac wrth iddyn nhw groesi trwy un o'r 'checkpoints' do'dd yr heddlu ddim yn hapus gyda'r dogfennau felly fe gawson nhw eu rhoi mewn cell am oriau yn Nwyrain yr Almaen.
"Shwt gethon nhw eu rhyddhau, dwi ddim yn gwybod!"
Bugeilio ym Mhatagonia
Fe ysgrifennodd golofn wythnosol "O'r byd a'r betws" i bapur Y Cyfnod, Y Bala, am bron i 40 o flynyddoedd, a bu'n gyfrannwr cyson i raglenni BBC Radio Cymru, yn ogystal ag adolygu llyfrau,
Yn 2007 fe dreuliodd y Parchedig W J Edwards a'i wraig Gwenda dri mis ymhlith Cymry'r Wladfa, yn ateb gwahoddiad i weinidogaethu a estynnwyd iddo gyntaf 40 mlynedd ynghynt.
"Roedd ystod eang iawn o ddiddordebau 'da fe, a gwybodaeth anhygoel a chof diarhebol," meddai'r Parchedig Richards.
"Dwi wedi colli ffynhonnell o bob gwybodaeth! Ro'n i'n gallu ffonio i ddyfynnu rhyw linell neu'i gilydd ac o'dd e'n dweud 'Gad hi 'da fi', ac erbyn diwedd y dydd bydde fe wedi ffonio nôl gydag ateb i mi."
"Beth oedd yn anhygoel oedd ei fod yn cofio'r pethe yma i gyd, roedd y cwbl ar ei gof hyd y diwedd."