Carcharor wedi dringo ar do carchar y Berwyn
- Cyhoeddwyd

Roedd swyddogion yn defnyddio craen i gael y carcharor i lawr oddi ar do'r carchar
Mae carcharor wnaeth ddringo ar do carchar yng ngogledd Cymru wedi cael ei arwain i lawr gan swyddogion.
Roedd swyddogion mewn gwisg arbennig yn ceisio annog y carcharor i lawr o do Carchar Berwyn yn Wrecsam drwy ddefnyddio craen.
Dywedodd llygaid dystion fod y person wedi'i weld ar y to am y tro cyntaf am tua 14:30 ddydd Mawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth y Carchardai eu bod yn "gweithio i ddod â digwyddiad ar uchder i ben".
"Mae amhariad bach wedi digwydd i weddill y carcharorion," meddai.
Fe agorwyd y carchar category C yn 2017.