'Er gwaetha' byw oddi cartref, rydw i wedi cadw fy acen'

  • Cyhoeddwyd
Meg JamesFfynhonnell y llun, Meg James

Mae Meg James yn Gymraes falch o Aberdâr, sydd bellach yn byw yn Lloegr. Pan roedd hi'n y brifysgol yn Llundain, cafodd gyngor i feddalu ei hacen Gymreig - profiad a effeithiodd yn ddwfn arni.

Yma, mae Meg yn sôn am bwysigrwydd ei hacen i'w hunaniaeth, a pham nad yw hi byth am deimlo eto fod rhaid iddi swnio'n llai Cymreig.

Wrth dyfu, doedd fy Nghymreictod byth yn cael ei gwestiynu. Cefais fy ngeni yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf, ac es i ysgol iaith Saesneg a dechrau dysgu Cymraeg o'r diwrnod cyntaf. Siaradais i Gymraeg nawr ac yn y man, ond ail iaith oedd hi i fi, yn bendant.

Pan oeddwn i'n 18 oed, symudais i Lundain i astudio mewn ysgol ddrama.

Roedd e'n amlwg cyn gynted ag y cerddais i mewn mai fi oedd yr odd one out, ond roedd e beth roeddwn i'n ei ddisgwyl. O'n i'n ferch o'r Cymoedd, yn sydyn yng nghanol Llundain, wedi f'amgylchynu gan adeiladau enfawr a phobl mewn siwtiau.

Roedd yn bopeth roeddwn i'n meddwl y byddai.

Ond beth oeddwn i ddim yn ei ddisgwyl oedd i fy niwylliant gael ei gwestiynu - gofynnon nhw i mi i wella fy acen i swnio'n fwy Saesnig.

Ffynhonnell y llun, Meg James
Disgrifiad o’r llun,

Meg yn mwynhau dathlu Dydd Gŵyl Dewi

'Mwy tebygol o gael swydd...'

Dywedodd darlithydd y byddai'n fy ngwneud i'n fwy tebygol o gael swydd ar ôl i mi raddio. Doeddwn i ddim yn deall - roedden nhw i fod i fy ysbrydoli a fy nghodi, nid fy rhwygo ar wahân.

I fi, mae fy acen yn golygu mwy i mi na sut dw i'n swnio - dyma pwy ydw i. Mae'n ymwneud â thyfu fyny mewn tref fach gyda breuddwyd o'r ddinas fawr. Mae ynglŷn â gwybod caneuon ysgol adnabyddus yn Gymraeg yn well nag yn Saesneg.

Mae'n brofiad fy mam a oedd yn un o'r disgyblion a oroesodd drychineb Aberfan - ac a symudodd i ffwrdd gyda'i theulu oherwydd yr euogrwydd.

Mae bod yn fenyw Gymreig yn rhan o fy mhersonoliaeth.

Wrth gwrs, gwrthodais i.

Ond er fy mod i wedi dweud na, yn ddwfn i lawr roeddwn i'n teimlo fy mod i'n twyllo fy hun, a nawr rwy'n gallu gweld mod i wedi bod yn meddalu fy acen ychydig, heb i mi sylweddoli, dros y blynyddoedd wedyn.

Ffynhonnell y llun, Meg James
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meg yn gwisgo penwisg ychydig yn wahanol y dyddiau yma... a pheidiwch ag anghofio'r pice ar y maen!

'Peidio â bod yn fi fy hun'

Roeddwn i'n blino'n lân ar fod o dan bwysau i fod yn rhywbeth nad ydw i. Ro'n i'n teimlo mod i naill ai'n cael cofleidio fy Nghymreictod a ddim yn gwneud cystal yn y brifysgol, neu'n ei gywirio a pheidio â bod yn fi fy hun.

Ar ôl prifysgol, symudais i nôl i Gymru a dechreuais i weithio'n rhan amser yng Nghaerdydd. Byw gyda fy nheulu eto ond gyda fy annibyniaeth oedd yr union beth o'n i angen.

Cefais fy hapusrwydd eto ar ôl blynyddoedd o'i gyfaddawdu er mwyn fy ngyrfa. Roedd byw gyda fy nheulu yn fendigedig, ond buan y teimlais yr ysfa i ddilyn fy nghalon eto - es ymlaen yn fy swydd a symud i Dorset yn 2017.

Roeddwn i'n ofnus. Ces i amser mor ddiflas yn Llundain, oeddwn i'n barod i fentro'r cyfan a gadael fy nghartref eto? Fyddai'r un gwahaniaethu a brofais yn Llundain yn digwydd eto? Eisteddais i yn y car yn teimlo'n sâl ar y ffordd i fy mywyd newydd.

Ond nid oedd angen i mi boeni. Diflannodd fy mhryder ar y diwrnod cyntaf, ac ar ôl treulio amser yn Poole roeddwn yn teimlo fy mod yn ymweld â hen ffrind.

Ffynhonnell y llun, Meg James

Cymerodd ychydig o fisoedd i mi ymgartrefu, wrth gwrs, ond roeddwn i'n teimlo cymaint yn fwy diogel nag y gwnes i erioed yn Llundain.

Nid oedd unrhyw un yn fy marnu ar sail sut rwy'n siarad na fy magwraeth. Roedden nhw'n hapus fy mod i o gwmpas ac wedi fy helpu i deimlo'n gartrefol, yn fy nghartref nad oedd yn gartref i mi.

Mae hi wedi bod yn ddwy flynedd ers i mi symud, ac rydw i wedi dod o hyd i gydbwysedd o'r diwedd. Dw i'n edrych ymlaen bob amser i fynd adre' a threulio amser gyda fy nheulu, ond dw i'n gyffrous i ddod yn ôl i Poole hefyd.

Weithiau, byddaf i'n clywed hen ferched ar eu gwyliau yn siarad â'i gilydd mewn acen Gymreig, ac mae fy nghalon yn dyheu i ofyn iddyn nhw o ble maen nhw'n dod.

Bydd gen i wastad ymdeimlad o hiraeth am fy nghartref, ond bydd gen i falchder yn fy nhreftadaeth Gymreig bob amser a sut rydw i'n cyflwyno hynny i'r byd.

Er gwaetha' byw oddi cartref, rydw i wedi CADW fy acen. Dyma fy natganiad i weddill y byd.

Dw i'n ferch y cymoedd, wedi'r cyfan.

Hefyd o ddiddordeb: