'Pair o emosiynau' mam fu'n ardaloedd tlotaf De Affrica
- Cyhoeddwyd
Pan gafodd Eurgain Haf gyfle i deithio i Dde Affrica i weld gwaith dyngarol sy'n helpu plant yno, roedd mewn cyfyng-gyngor.
Fel rheolwr cyfathrebu i Achub y Plant yng Nghymru roedd yn awyddus i weld gwaith yr elusen yno, ond fel mam roedd hi'n ansicr sut fyddai hi'n ymateb i'r profiad.
Yma mae'n adrodd yr hanes:
Fel mam i ddau o blant, saith a phedair oed, cefais sawl wobyl wrth feddwl am eu gadael am 'naw cwsg' a theithio mor bell i ymweld â rhai o ardaloedd mwyaf bregus gwlad sy'n parhau i fod ag elfen o risg o ran diogelwch i ymwelwyr, yn enwedig i weithwyr dyngarol.
Teimlwn hefyd ychydig yn anniddig o ran yr hyn y byddwn yn ei weld, a sut y byddwn yn ymateb i hynny, yn enwedig fel mam. Mae nifer brawychus o famau a babanod yn marw yn ystod genedigaethau ac yn gynamserol yn Ne Affrica.
Ond, penderfynu cofleidio'r antur fawr wnes gan fynd ati i greu siart i'w roi ar y wal gyda map o Dde Affrica a chyfle i'r plant dicio'r dyddiau nes y byddwn yn dychwelyd.
Cawsom sawl sgwrs hefyd am y rhesymau pam yr oeddwn yn mynd ac am y wlad ei hun a arweiniodd at gais arbennig gan fy mab, sy'n hoff iawn o anifeiliaid, i ddod o hyd i gameleon a gwneud fideo ohono yn newid ei liw!
Roedd geiriau doeth fy ngŵr hefyd yn gysur: "meddylia am y straeon y gelli eu rhannu hefo nhw pan ddoi di yn dy ôl." A'r straeon hynny sy'n dal i ganu yn y co'.
Anghyfartaledd De Affrica
Fe aeth ein taith â ni i daleithiau Gauteng, KwaZulu-Natal a Limpopo. Roedd yr anghyfartaledd i'w weld yn amlwg wrth i ni deithio o gyfoeth dinasoedd Johannesburg, Pretoria a Durban i'r treflannau gwledig yn nhaleithiau Ugu ac eThekwini gan basio coed banana a phlant yn cnoi ar gansenni siwgr ar eu ffordd i'r ysgol.
Â'n hesgyrn yn clecian wrth i ni ddringo ar hyd traciau pridd, anwastad i gyrraedd ein cyrchfannau gwledig, difyr oedd gweld y clytwaith o gytiau clai crynion oedd yn gartrefi i'r trigolion, y gwartheg a'r geifr a gerddai'n ffri ar ochr y ffordd a'r gwragedd yn cario eu babanod mewn siôl ar eu cefnau, ac eraill yn golchi a sgwrio dillad mewn llynnoedd gerllaw.
Roedd y merched y cwrddon ni â nhw yn y cymunedau yn anhygoel. Roedd nifer wedi agor drysau eu cartrefi i gynnig gofal i blant bach a fyddai fel arall wedi bod yn crwydro'r strydoedd.
Dechreuodd Mrs Banda redeg meithrinfa yn ei chartref 11 mlynedd yn ôl, gan symud dodrefn a gwelyau ei phlant ei hun bob bore i wneud lle i blant y gymuned.
Erbyn hyn mae'r feithrinfa yn gofalu am 80 o blant ac yn eu dysgu yn Zulu a Saesneg er mwyn eu paratoi ar gyfer yr ysgol.
Rôl rhieni yn debyg ym mhob gwlad
Clywsom hefyd gan Mr Maharaj, pennaeth mewn ysgol gynradd, sut oedd ffioedd dysgu, costau teithio, a diffyg ymroddiad gan rieni yn rhwystrau mawr yn ei ardal.
Fel aelod o Bwyllgor Rhieni ac Athrawon ysgol fy mhlant dwi'n gwybod pa mor bwysig yw rôl rhieni yn natblygiad eu plant, a pha mor galed mae ysgolion yn gweithio i drio annog rhieni i fod yn rhan ganolog o'u haddysg.
I adleisio geiriau Nelson Mandela: "Addysg yw'r arf fwyaf pwerus i allu newid y byd."
Felly, o gnoi cil ar fy nhaith, mae'n wir dweud fy mod wedi fy nghalonogi. Roedd y croeso yn gynnes gyda phlant mewn un ganolfan yn ein cyfarch mewn 11 o ieithoedd gynhenid y wlad!
Fel y gwnes droeon gyda fy mhlant fy hun, darllenais stori Y Gryffalo i griw o blant. Dawnsiais i'r gân Baby Shark, buom yn chwythu swigod a mwynheais sgwrsio gyda'r hyfforddwyr, aelodau o'r gymdeithas a'm cydweithwyr yn Ne Affrica a dysgu mwy am sut mae'r elusen yn cwrdd ag anghenion y plant a'u teuluoedd yn y wlad.
Croeso ar ôl dod adref
Roedd yr arwydd 'Croeso yn ôl Mami o Dde Affrica' yn goleuo'r gegin wrth i fi ddychwelyd adref, a'r cyffro a'r cwestiynau yn fy mhledio o bob cyfeiriad, gan gynnwys: "Wnes di lwyddo i wneud fideo o gameleon yn newid ei liw i mi?"
Hen greadur digon swil yw'r cameleon yn ôl pob sôn ac efallai mai dychwelyd i Dde Affrica ar ei drywydd fydd ein hanes fel teulu rhyw ddydd, pwy a ŵyr.
Hefyd o ddiddordeb: