Ceryddu Leanne Wood am regi ar Twitter wedi pleidlais
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi ei cheryddu'n swyddogol, yn dilyn pleidlais yn y Senedd.
Fe wnaeth Ms Wood dorri'r cod ymddygiad wrth ddefnyddio gair rheg i feirniadu blogiwr, yn ôl Pwyllgor Safonau'r Cynulliad.
Dywedodd Ms Wood ei bod yn herio "bwli" pan gyhoeddodd ei neges, rhywbeth gafodd ei wadu gan y blogiwr, Royston Jones.
Dydd Mercher fe wnaeth 37 aelod bleidleisio o blaid ei cheryddu, 12 yn erbyn ac fe wnaeth pedwar atal eu pleidlais.
Ddim am ymddiheuro
Fe gyhoeddodd Ms Wood y neges ar Twitter mewn ymateb i feirniadaeth gan Royston Jones, sy'n blogio dan yr enw Jac o' the North, ynglŷn â'r AC Delyth Jewell.
Roedd Ms Jewell newydd ei dewis i olynu'r diweddar Steffan Lewis fel AC Dwyrain De Cymru, ac roedd sylw Mr Jones yn cyfeirio at ei ddiddordebau.
Gwnaed cwyn am sylw Ms Wood gan unigolyn arall.
Dywedodd y Comisiynydd Safonau, Syr Roderick Evans, ar ôl ymchwilio i'r achos fod "modd ymateb yn briodol a herio" gosodiadau Jac o' the North "mewn sawl ffordd".
Ond dywedodd Ms Wood nad yw'n difaru ei defnydd o eiriau.
Ychwanegodd ddydd Mercher na fyddai'n onest iddi ymddiheuro fel mae AC arall wedi'i wneud am ei ymddygiad ar Twitter.
Roedd Plaid Cymru eisoes wedi dweud nad ydyn nhw'n cytuno gyda'r cerydd.
Ni fydd yn arwain at gamau pellach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2019
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2019