Llywodraeth Cymru'n stocio warws i baratoi am Brexit

  • Cyhoeddwyd
Warws yng Nghasnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai'r warws yng Nghasnewydd gael ei werthu neu ei ail-ddefnyddio petai Brexit ddim yn digwydd

Mae nwyddau gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer cartrefi gofal ac ysbytai'n cael eu cadw mewn warws yn ne Cymru.

Dywed penaethiaid y gwasanaeth iechyd yng Nghymru na fyddai pobl hŷn yn cael eu hanghofio fel rhan o baratoadau i ddelio â Brexit heb gytundeb.

Mae yna 1,000 o wahanol nwyddau, sy'n amrywio o rwymynnau i fwyd ar gyfer y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Daw hyn wrth i'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething rybuddio am "effeithiau sylweddol posib" i Brexit heb gytundeb.

Fe brynodd Llywodraeth Cymru'r warws ger Casnewydd yn gynharach eleni.

Dywedodd Mr Gething wrth aelodau cynulliad ddydd Mawrth: "Er ein bod ni'n gwneud popeth allwn ni i baratoi, ni all unrhyw fath o gynllunio warantu Brexit heb darfiad.

"Byddai awgrymu fel arall yn gamarweiniol iawn ac yn anghyfrifol."

Ychwanegodd y byddai'r arian sydd wedi'i wario ar stocio'r warws - £11m - wedi gallu cael ei ddefnyddio i dalu am saith o sganwyr MRI.

Mae gan yr adeilad - sy'n 240,00 troedfedd sgwâr - gwerth deufis o gynnyrch ychwanegol, ar gost o £5m hyd yma.

Dywedodd Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru, bod cael warws eu hunain yn galluogi'r gwasanaeth i gael mynediad i gynnyrch sydd ddim ar gael yn gyson yn Lloegr.

"Ond y budd mwyaf yw ein bod ni'n gallu cynnig cynnyrch i gefnogi'r gwasanaethau gofal cymdeithasol os ydyn nhw'n lleihau," meddai.