Dirwy o £1.8m i gwmni Celsa wedi ffrwydrad angheuol
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni dur Celsa wedi cael dirwy o £1.8m yn dilyn marwolaeth dau weithiwr mewn ffrwydrad yng Nghaerdydd yn 2015.
Bu farw'r peirianwyr Peter O'Brien, 51, a Mark Sim, 41, ar safle'r cwmni yn ardal Sblot ar 18 Tachwedd.
Clywodd y llys bod mecanwaith diogelwch wedi methu â chau gwresogydd ac felly fe orboethodd ac yna ffrwydro.
Dywedodd y barnwr bod y gwaith dur yn edrych "fel pe bai bom wedi ffrwydro" yn dilyn y digwyddiad.
Cafodd pum dyn arall eu hanafu.
'Canfod diweddglo'
Dywedodd Marie, gwraig Mr O'Brien: "Ni ddylai neb fynd i'r gwaith a pheidio dod 'nôl.
"Fe fyddwn ni wastad yn caru a cholli Peter ond mae'n rhaid i ni rywsut ganfod ryw fath o ddiweddglo i'r cyfan nawr."
Dywedodd Samantha, gwraig Mr Sim, mai dyma'r profiad "mwyaf trawmatig i mi erioed orfod delio ag e".
Yn Llys y Goron Caerdydd cyfaddefodd cwmni Celsa eu bod wedi methu â gwneud asesiad addas a digonol i gwrdd â gofynion Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle.
Dywedodd y Barnwr Neil Budder: "Mae'r cwmni wedi methu â gwneud asesiad addas a digonol o'r hyn a allai ddigwydd.
"Fe ddigwyddodd ffrwydrad anferth gan rwygo'r gwresogydd metel yn ddarnau. Mae lluniau o'r olygfa fel petai bom wedi ffrwydro.
"Petai pob asesiad risg wedi cael ei wneud yn iawn rwy'n siŵr na fyddai'r ddamwain wedi digwydd. Dylid fod wedi canfod risg o ffrwydrad."
Celsa'n ymddiheuro
Cafodd cwmni Celsa orchymyn i dalu £1.8 miliwn o fewn chwe mis.
Yn ogystal roedd yna orchymyn i dalu costau o £145,771.85 a thâl ychwanegol o £120.
Fe wnaeth llefarydd ar ran Celsa ymddiheuro "am y methiannau wnaeth gyfrannu at y digwyddiad mwyaf trasig yn ein hanes".
"Rydyn ni wedi gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau na fydd unrhyw beth fel yma yn gallu digwydd eto," meddai.
"Rydyn ni oll yn gweithio'n ddiflino yn ddyddiol i flaenoriaethu diogelwch pob un o'n cydweithwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2019
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2018