Erlyn cwmni dur Celsa wedi ffrwydrad angheuol

  • Cyhoeddwyd
Mark Sim a Peter O'Brien
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mark Sim a Peter O'Brien yn y ffrwydrad ym mis Tachwedd 2015

Mae cwmni dur Celsa i gael eu herlyn ar gyhuddiad o dorri rheolau iechyd a diogelwch yn dilyn marwolaeth dau o weithwyr wedi ffrwydrad yng Nghaerdydd yn 2015.

Bu farw dau beiriannydd ar safle'r cwmni yn Sblot o ganlyniad i'r ffrwydrad ar 18 Tachwedd, 2015.

Mae teuluoedd Mark Sim, 41 o Gil-y-coed, a Peter O'Brien, 51 o Lanisien wedi cael gwybod y bydd Celsa Manufacuring (UK) yn cael eu herlyn yn Llys Ynadon Caerdydd ar 11 Medi.

Y gweithgor iechyd a diogelwch fydd yn eu herlyn ar gyhuddiad o dan Adran 2(1) Deddf Diogelwch ac Iechyd yn y Gweithle.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y ffrwydrad ar lawr isaf y safle yn ardal Sblot, Caerdydd

Cafodd gweithwyr eraill hefyd eu hanafu yn y digwyddiad.

Ym mis Ionawr dywedodd Heddlu De Cymru nad oedd digon o dystiolaeth i ddod ag achos o ddynladdiad drwy esgeulustod na ddynladdiad corfforaethol yn erbyn y cwmni.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu iddyn nhw ddod i'r penderfyniad wedi ymchwiliad trylwyr.