'Angen i'r llywodraeth roi mwy o gymorth i'r stryd fawr'

  • Cyhoeddwyd
Siop sglodion J&C, Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stryd y Llyn yng Nghaernarfon yn dioddef yn ôl un perchennog

Mae ymgyrchwyr yn dweud y gallai Llywodraeth Cymru wneud llawer mwy i leddfu'r pwysau ar brif strydoedd Cymru.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn cynyddu ei chronfa gymorth ar y stryd fawr i £1bn.

Dywed manwerthwyr Cymru bod angen i Lywodraeth Cymru wneud y stryd fawr yn flaenoriaeth yn ei chyllideb nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynnu bod cefnogi canol trefi yn parhau i fod yn "gonglfaen i'n gweithgareddau adfywio".

Mae gweinidogion Cymru hefyd wedi dadlau nad yw gwariant gan Lywodraeth y DU "yn gwneud yn iawn am bron i ddegawd o doriadau".

Roedd y ffigyrau manwerthu diweddaraf yn awgrymu bod y dirywiad yn y stryd fawr yng Nghymru yn waeth nag unrhyw le arall yn y DU.

Dywedodd Pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru, Sara Jones, fod cynyddu cyfraddau busnes yn "faich cost go iawn sy'n wynebu manwerthwyr ar hyn o bryd".

"Mae strydoedd mawr yn wynebu heriau ledled y DU ond mae yna heriau ychwanegol yng Nghymru," meddai wrth raglen Sunday Politics BBC Cymru.

"Mae cyfraddau busnes ar eu lefel uchaf ers 20 mlynedd ac mae'n uwch yng Nghymru nag yn Lloegr a'r Alban."

Caernarfon: Dwy stryd, dwy stori wahanol

Er bod siopau ar Stryd y Palas yn denu ychydig neu ddim cyfraddau busnes, mae gan Stryd y Llyn werth ardrethol lawer uwch.

Mae'n golygu bod yn rhaid i Endaf Cook, perchennog siop sglodion J&C, dalu o leiaf draean yn fwy na bwytai eraill yn y dref - oherwydd ei fod wedi'i leoli ar y stryd fawr.

"Mae busnesau bach yn trio cadw eu pennau uwchben y dŵr ond yn gweld y gwerth ardrethol yn ormod ac yn cau i lawr," meddai Mr Cook.

"Mae'r siop gyferbyn â fi'n enghraifft wych. Roeddan nhw'n cynnig rhoi'r siop i ffwrdd am ddim, dim ond i'w chael hi oddi ar eu dwylo. Mae'n biti mawr."

Disgrifiad o’r llun,

Endaf Cook ydy perchennog siop sglodion J&C, Caernarfon

Dywedodd Gareth Thomas, sy'n gyfrifol am ddatblygu economaidd ar gabinet Cyngor Gwynedd, fod ei ddwylo wedi'u clymu.

"Allwn ni ddim adfywio strydoedd mawr gyda grantiau a rhoi gostyngiadau ar y cyfraddau - rhaid i hynny ddod gan Lywodraeth Cymru," meddai.

Mae Stryd y Palas, ar y llaw arall, yn llawn siopau annibynnol llwyddiannus - llyfrwerthwyr, dillad, gemwaith crefftus, caffis, bwytai a deli.

Mae hyd yn oed wedi cael enwebiad yng Ngwobrau Stryd Fawr Prydain eleni.

Jennifer Hanlon ydy perchennog Lotti and Wren, sy'n gwerthu nwyddau o esgidiau i ddillad plant.

Mae'r busnes wedi bod yn tyfu ers iddo agor ar y stryd 17 mlynedd yn ôl, ac nid yw'n gwerthu ar-lein.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jennifer Hanlon, perchennog Lottie and Wren, nad oes "cystadleuaeth" rhwng siopau Stryd y Palas

"Mae gwefannau yn eithaf oer, dwi'n hoffi cyffwrdd a theimlo rhywbeth," meddai.

"Yr hyn y mae'r stryd yma yng Nghaernarfon wedi'i brofi ydy, os gallwch chi gynnig y gwasanaeth personol hwnnw, bydd pobl yn dod yn ôl."

Mae'n credu mai cyfrinach llwyddiant Stryd y Palas ydy bod y perchnogion busnes - sy'n ferched yn bennaf - yn gweithio gyda'i gilydd i lwyfannu digwyddiadau a chefnogi ei gilydd.

"Dydy hi ddim yn gystadleuaeth yma. Dydy pobl ddim yn dod i'r dref am un siop, felly 'dan ni'n gweithio efo'n gilydd ac mae'n digwydd felly mai merched sydd wedi gwneud hynny yn bennaf."

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod "pwysigrwydd sector manwerthu iach yng Nghymru" ac mae wedi darparu £2.4m ychwanegol i awdurdodau lleol i ddarparu rhyddhad cyfradd dewisol.

Dywedodd fod hynny'n ychwanegol at y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach, a dywedodd eu bod wedi darparu mwy na £100m o gefnogaeth bob blwyddyn.

Mae Sunday Politics Wales ar BBC Two Wales o 10:00 ddydd Sul, 6 Hydref - neu ar BBC iPlayer