Gostyngiad i lygredd aer mewn pum man yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
cyfyngiadau cyflymder
Disgrifiad o’r llun,

Camerâu cyflymder ar yr M4 ger Port Talbot

Mae lefelau llygredd nwy nitrogen deuocsid wedi gostwng mewn pum man yng Nghymru sydd wedi cael cyfyngiadau cyflymder newydd, meddai Llywodraeth Cymru.

Cafodd y terfynau 50mya eu cyflwyno ar gefnffyrdd yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, traffordd yr M4 ym Mhort Talbot, yr A470 tuag at Bontypridd, a therfyn amrywiol ar yr M4 yng Nghasnewydd.

Daeth y newidiadau flwyddyn yn ôl i helpu Llywodraeth Cymru gyrraedd targedau'r Undeb Ewropeaidd a Chymru ar ansawdd aer.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod hi'n "rhy gynnar" i gadarnhau mai'r terfynau cyflymder sy'n gyfrifol yn uniongyrchol am y gostyngiad.

Ond dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates, ei fod wedi ei "galonogi" gan y canlyniadau diweddaraf.

'Cymru iachach, mwy cyfrifol'

Mae'r terfynau cyflymder wedi cael eu hadolygu fel rhan o fonitro ansawdd aer yn yr ardaloedd hynny, a byddan nhw'n aros yn eu lle nes bod lefelau nitrogen deuocsid yn is na'r terfynau cyfreithiol.

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae hi'n rhy gynnar i gyhoeddi a chadarnhau unrhyw gasgliadau cadarn ynghylch effaith y terfynau cyflymder o 50 milltir yr awr ar y terfynau NO2.

"Bydd angen casglu rhagor o ddata wrth ymyl y ffordd cyn y gall y tueddiad hwn o ran gwell ansawdd aer gael ei gadarnhau. Bydd adroddiad arall yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2020."

Ond dywedodd Mr Skates: "Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i leihau allyriadau er mwyn arbed pobl rhag y risg o ddatblygu cyflyrau iechyd a allai fod yn ddifrifol.

"Byddwn yn gobeithio y byddai'r mwyafrif o fodurwyr yn cytuno bod helpu i achub pobl rhag salwch neu hyd yn oed marwolaeth yn bwysicach nag arbed munud neu ddwy ar eu taith."

Cafodd camerâu cyflymder cyfartalog eu gosod mewn pedwar o'r lleoliadau ym mis Awst i orfodi'r terfynau 50mya - daeth y rheini'n weithredol fis diwethaf.

Ychwanegodd Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths: "Mae'n hanfodol sicrhau gostyngiadau brys mewn allyriadau nitrogen deuocsid i fodloni gofynion deddfwriaethol ac i gefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru iachach a mwy cyfrifol yn fyd-eang."