'Effaith Brexit yn debyg i Thatcheriaeth' medd Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Joanthan Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Joanthan Edwards yn rhoi ei araith i gynhadledd Plaid Cymru

Bydd effaith Brexit ar annibyniaeth yn debyg i effaith Thatcheriaeth ar ddatganoli, yn ôl un o ASau Plaid Cymru.

Dywedodd Jonathan Edwards yn dweud wrth gynhadledd ei blaid yn Abertawe bod y bleidlais i adael yr UE wedi gyrru "sledgehammer drwy'r cyfnod ôl-ddatganoli".

Mae annibyniaeth wedi codi yn uwch ar agenda wleidyddol Cymru wedi cyfres o orymdeithiau diweddar ledled Cymru.

"Fe allwn ni orffen y swydd a ddechreuwyd trwy ddatganoli," meddai Mr Edwards.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe bleidleisiodd Cymru i adael yr UE yn 2016

Bydd Plaid yn cynnal ail ddiwrnod eu cynhadledd hydref yn Theatr y Grand yn Abertawe yn ystod y dydd.

Ddydd Gwener dywedodd arweinydd y blaid, Adam Price, ei fod yn credu y byddai refferendwm ar annibyniaeth Cymru yn cael ei gynnal erbyn 2030 - a hynny wrth fynnu £20bn mewn iawndal gan San Steffan.

'Gwlad Ewropeaidd annibynnol'

Dywedodd Mr Edwards wrth gynadleddwyr: "Rwy'n cofio ysgrifennu traethawd prifysgol yn ceisio esbonio'r gwahaniaethau rhwng refferenda Cymru 1979 a 1997, a pham roedd Cymru wedi mynd o fod yn wrthwynebus iawn i ddatganoli i bleidleisio ychydig o'i blaid o fewn 18 mlynedd.

"Y prif reswm oedd polisïau Thatcher yn syth ar ôl y refferendwm cyntaf. Roedd pobl ein gwlad yn dyheu am rywfaint o amddiffyniad trwy hunan-lywodraeth."

Ychwanegodd AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: "Fe wnaeth refferendwm Brexit yrru gordd trwy'r cyfnod ôl-ddatganoli yn hanes Cymru ac erbyn hyn mae 'na fwy yn y fantol.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth miloedd i rali Merthyr ddechrau Medi

"Ar y naill law bydd Cymru fel cenedl wleidyddol yn cael ei hailgynnwys gan San Steffan. Ar y llaw arall, gallwn orffen y swydd a ddechreuwyd trwy ddatganoli a dod yn wlad Ewropeaidd annibynnol arferol.

"Rwy'n fwy argyhoeddedig nawr nag erioed y bydd Brexit, beth bynnag sy'n digwydd o hyn ymlaen, dros annibyniaeth beth oedd Thatcher ar gyfer datganoli."

Cafodd pleidlais hefyd ei gynnal dros gadeiryddiaeth Plaid Cymru ddydd Sadwrn, gyda'r cadeirydd presennol Alun Ffred Jones yn trechu her gan Dr Dewi Evans.

Roedd Dr Evans wedi datgan ei gefnogaeth i'r Aelod Cynulliad annibynnol Neil McEvoy, a gafodd ei ddiarddel o'r blaid ym mis Mawrth 2018.

Fe wnaeth aelodau'r blaid hefyd bleidleisio o blaid polisi o ddiddymu Brexit petai Llywodraeth y DU yn ceisio gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Ym mhob sefyllfa arall mae'r blaid yn dweud eu bod eisiau gweld refferendwm arall ar aros yn yr UE ai peidio.

Clywodd y gynhadledd hefyd gan un o wleidyddion blaenllaw Sinn Fein, Mary Lou McDonald, a gyhuddodd brif weinidog y DU Boris Johnson o geisio "fandaleiddio ein gwlad" gyda'i gynlluniau ar gyfer Brexit.

Ychwanegodd ei bod yn edrych ymlaen at y dydd pan fyddai Iwerddon, Cymru, Lloegr a'r Alban yn "cymryd seddi wrth y bwrdd fel gwledydd annibynnol a sofran".