Tri dyn dan ymchwiliad wedi i gar 'yrru at bobl' ar brom

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Rhybudd: Gall rhai golygfeydd beri gofid

Mae tri dyn wedi cael eu harestio a'u rhyddhau dan ymchwiliad ar ôl iddi ymddangos fod car wedi'i yrru tuag at bobl yn Aberystwyth.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi cael eu galw i Marine Terrace yn Aberystwyth toc cyn 05:00 ddydd Sadwrn.

Ychwanegodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi cael eu galw i'r ardal yn dilyn adroddiad bod car yn gyrru'n beryglus, a'i fod wedi taro cerddwyr neu biler ar y prom.

Mewn fideo gafodd ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, mae car yn cael ei weld yn gyrru ar gyflymder ar hyd y promenâd cyn i ffrwgwd ddigwydd.

Cafodd un dyn ei drin am fân anafiadau, ond fe wrthododd dyn arall gael triniaeth feddygol.

Cafodd tri dyn eu harestio ar amheuaeth o ymosod ac o droseddau gyrru, ac maen nhw bellach wedi'u rhyddhau dan ymchwiliad.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn apelio ar unrhyw un sydd â mwy o wybodaeth i gysylltu â nhw.