Cwpan Rygbi'r Byd: Y cysylltiadau Cymreig

  • Cyhoeddwyd
coaches

Warren Gatland, dyn o Seland Newydd, yw prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru ar hyn o bryd. Ond mae nifer o Gymry'n brysur yn ystod Cwpan y Byd yn Japan yn hyfforddi gwledydd eraill yn y gystadleuaeth.

Mae nifer o'r chwaraewyr sy'n chwarae dros eu gwlad yn Nghwpan y Byd, hefyd yn chwarae i dimau rygbi yng Nghymru, neu efo cysylltiadau cryf â'r wlad:

Rwsia

Mae tri Chymro yn rhan o dîm hyfforddi Rwsia yng Nghwpan y Byd eleni. Cyn-flaenasgellwr Cymru, Lyn Jones yw'r prif hyfforddwr, gyda Shaun Connor yn hyfforddwr olwyr a Mark Bennett sy'n gyfrifol am gryfder a chyflyru.

Roedd y Cymro Kingsley Jones yn arfer hyfforddi Rwsia o 2011 i 2014.

Ffynhonnell y llun, ODD ANDERSEN
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Lyn Jones dros Gastell Nedd (1983-90) a Lanelli (1990-94)

Seland Newydd

Roedd prif hyfforddwr Seland Newydd, Steve Hansen, yn hyfforddi carfan Cymru o 2002 i 2004.

Mae Nick Williams, wythwr Gleision Caerdydd, yn gefnder i un o sêr y tîm Crysau Duon presennol, Sonny Bill Williams.

Yr Alban

Danny Wilson yw'r hyfforddwr cynorthwyol i Gregor Townsend yn yr Alban. Mae Wilson wedi gweithio fel hyfforddwr blaenwyr gyda'r Dreigiau (2010-12) a'r Scarlets (2012-14), ac fel prif hyfforddwr gyda Chymru Dan 20 a Gleision Caerdydd (2015-18).

O ran y chwaraewyr mae Blade Thompson yn chwarae gyda'r Scarlets ar hyn o bryd, ac roedd John Barlcay yn ffefryn ar Barc y Scarlets o 2013 i 2018.

Ffynhonnell y llun, Brendan Moran
Disgrifiad o’r llun,

Danny Wilson gyda phrif hyfforddwr yr Alban, Gregor Townsend

Namibia

Mae tîm hyfforddi Namibia yn cynnwys pedwar dyn a chwaraeodd dros Gymru. Phil Davies yw'r prif hyfforddwr, Mark Jones yw hyfforddwr yr olwyr, Dale Macintosh yw'r hyfforddwr amddiffyn a Wayne Proctor yw'r hyfforddwr cryfder a chyflyru. Hefyd, Sam Pickford o Lanilltud Fawr yw'r pennaeth dadansoddi perfformiad.

Roedd yr ail-reng Ruan Ludick yn arfer bod yn rhan o garfan Merthyr yn Uwch-gynghrair Cymru.

Ffynhonnell y llun, Shaun Botterill
Disgrifiad o’r llun,

Dau o'r Cymry sydd ar hyn o bryd gyda garfan Namibia, Mark Jones a Phil Davies

Iwerddon

Er nad yw'n Gymro, mae Simon Easterby wedi bod yn ffigwr poblogaidd yng ngorllewin Cymru ers ugain mlynedd. Chwaraeodd dros Lanelli ac yna'r Scarlets o 1999 tan 2010, ac roedd yn hyfforddwr ar Barc y Scarlets o 2012 i 2014. Mae bellach yn hyfforddwr blaenwyr gyda thîm cenedlaethol Iwerddon.

Yn y garfan hefyd mae Rhys Ruddock, mab cyn-hyfforddwr Cymru a enillodd y Gamp Lawn yn 2005, Mike Ruddock.

Roedd Tadhg Beirne gyda'r Scarlets am ddwy flynedd tan iddo ymuno â Leinster y llynedd, ac fe gafodd y mewnwr Kieran Marmion ei fagu yn Aberhonddu cyn astudio yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd.

De Affrica

Aled Walters o Gaerfyrddin yw pennaeth perfformiad athletig De Affrica. Roedd Aled yn arfer bod yn rhan o dîm hyfforddi'r Scarlets, cyn symud i'r Brumbies yn Awstralia, Taranaki yn Seland Newydd a Munster yn Iwerddon.

Yn 2017 fe chwaraeodd mewnwr y Springboks, Herschel Jantjies, un gêm dros y Scarlets oherwydd fod gan y Cymry anafiadau yn y safle tra'n teithio De Affrica. Yn y gêm yn erbyn y Stormers daeth Mike Phillips allan o ymddeoliad i chwarae dros y Scarlets gyda Jantjies yn dod 'mlaen yn yr ail hanner.

Ffynhonnell y llun, Gallo Images
Disgrifiad o’r llun,

Aled Walters o Gaerfyrddin, sy'n rhan o dîm hyfforddi De Affrica ers mis Mawrth 2018

Yr Eidal

Chwaraeodd mewnwr yr Eidal, Tito Tebaldi, dros y Gweilch yn nhymor 2013-14.

Samoa

Mae prop Samoa, Jordan Lay, yn chwarae i ranbarth y Gweilch ar hyn o bryd, mae Kieron Fonotia gyda'r Scarlets ac mae Rey Lee-Lo gyda Gleision Caerdydd ers 2015.

Lloegr

Mae teulu'r chwaraewyr Billy a Mako Vunipola yn dod o Tonga yn wreiddiol, ond maent hefyd yn gefndryd i wythwr Cymru sydd wedi ei anafu ar hyn o bryd, Taulupe Faletau. Roedd y brodyr Vunipola yn byw yng Nghymru ac yn chwarae rygbi dros Glwb Rygbi New Panteg yn Nhorfaen.

Roedd Sam Underhill yn astudio economeg ym Mhrifysgol Caerdydd tra'n chwarae dros Ben-y-bont a'r Gweilch. Roedd Manu Tuilagi yn chwarae dros Glwb Rygbi Tredelerch tra roedd yn byw yng Nghaerdydd gan fod ei frawd yn chwarae dros y Gleision.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Wythwyr Cymru a Lloegr, y cefndryd Taulupe Faletau a Billy Vunipola

Canada

Prif hyfforddwr Canada ers Medi 2017 yw cyn-gapten Cymru, Kingsley Jones, ac mae cyd-Gymro gydag ef fel cynorthwyydd, y cyn-brop Darren Morris.

Mae nifer o'r garfan bresennol wedi chwarae yng ngorllewin Cymru; Tyler Ardon, Phil Mack a Jeff Hassler gyda'r Gweilch, a D. T. H. van der Merwe gyda'r Scarlets.

Ffynhonnell y llun, Shaun Botterill
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Kingsley Jones dros Gymru 10 gwaith rhwng 1996 ac 1998

Yr Ariannin

Chwaraeodd prop yr Ariannin, Nahuel Tetaz Chaparro, dros y Dreigiau rhwng 2013 a 2014. Mae bellach yn ddewis cyntaf i Los Pumas ac yn chwarae i'r Jaguares yng nghystadleuaeth Super Rugby.

Yr Unol Daleithiau

Mae capten yr Eryr, Blaine Scully, yn chwarae dros Gleision Caerdydd. Roedd Cam Dolan hefyd gyda'r Gleision rhwng 2015 a 2017.

Roedd y mewnwr Mike Petri yn arfer chwarae dros y Dreigiau, ac felly Thretton Palamo a oedd ar fenthyg yn Rodney Parade o Fryste.

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Blaine Scully o Sacramento, California, chwaraewr hynod boblogaidd ar Barc yr Arfau

Tonga

Cafodd wythwr Cymru, Taulupe Faletau, ei eni yn Tonga, ac roedd ei dad Kuli yn chwarae yn ail-reng dros Tonga.

Mae'r prop Maʻafu Fia yn chwarae dros y Gweilch ers 2015, ac mae disgwyl i'r ail-reng Sam Lousi symud i'r Scarlets ar ôl i'r Cwpan y Byd orffen.

Georgia

Roedd cyn-gefnwr Cymru, Kevin Morgan, yn gweithio fel hyfforddwr cryfder a chyflur Georgia wrth iddynt baratoi at Gwpan y Byd.

Mae'r ail-reng Giorgi Nemsadze wedi ennill 94 o gapiau dros Georgia, ac mae'n rhan o garfan y Gweilch ers 2015.

Ffynhonnell y llun, Mike Hewitt
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kevin Morgan 48 o gapiau dros Gymru rhwng 1997 a 2007

Fiji

Mae doctor tîm cenedlaethol Fiji, Bryn Savill, yn Gymro.

Roedd Josh Matavesi a Tavita Cavubati yn arfer chwarae i'r Gweilch ac roedd roedd y prop Campese Ma'afu yn chwarae dros y Gleision.

Hefyd o ddiddordeb: