Colofn Ken: Curo Awstralia'n golygu dim heb guro Fiji
- Cyhoeddwyd
Wedi'r fuddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Awstralia, mae gorffen ar dop y grŵp o fewn cyrraedd garfan Cymru. Dwy gêm sydd ar ôl cyn y chwarteri, gyda Fiji y nesa' i herio bechgyn Gatland.
Ond mae Cymru wedi baglu yn erbyn Fiji mewn Cwpan y Byd yn y gorffenol (2007) ac mae bachwr Cymru, Ken Owens, yn cymryd bygythiad yr ynyswyr o ddifri'.
Yn amlwg o'n ni'n hapus iawn i gael y fuddugoliaeth yn erbyn Awstralia ac o'dd lot o emosiwn ar ôl y gêm. Ges i hug bach 'da Tomas Francis a o'dd hi'n foment grêt achos ma' pawb 'di bod trwy lot dros y 18 mis i ddwy flynedd ddiwetha' - ma' popeth di bod yn adeiladu at Gwpan y Byd.
O'dd pawb yn siarad am fisoedd cyn i'r twrnament ddechrau ac yn dweud bod hon yn gêm enfawr i ni. 'Naethon ni guro Awstralia nôl yn yr Hydref felly o'dd hi'n bwysig i ni gael ail fuddugoliaeth er mwyn dangos taw dim one off o'dd hi!
O'dd hi'n gêm o ddau hanner cofiwch - 'o ni spot on gyda'r hanner cynta' ond yn yr ail hanner gaethon nhw lot mwy o'r bêl a dal 'mlaen iddo fe.
Ond ar ddiwedd y gêm o'dd cwpl o foments sbesial - Tomos Williams a Owen Watkin yn dod mlaen a troi'r bêl drosodd ac o'dd Warren yn hapus iawn 'da'r perfformiad a'r ffordd naethon ni aros yn y gêm am 80 munud. Ond ma' digon i weithio arno fe i wella dros yr wythnosau nesa'.
Dim sws!
Ges i ddim sws gan Alun Wyn Jones fel George North! 'Nath pawb weld e yn syth ar ôl y gêm a o'dd y ddau o' nhw fel, "'naethon ni neud 'na?!' Odd e'n ddamweinol ond o'dd y camerâu wedi dal y foment yn berffaith! O'dd y ddau o' nhw bach yn shocked bod e 'di digwydd. Mae emosiwn yn neud pethe rhyfedd i bobl!
Ar ôl y gêm o'dd hi'n ddathliad weddol tawel - jest cwpl o beints yn y gwesty! Pan gyrhaeddon ni nôl o'dd angen symud yr holl fagiau lawr i'r llawr gwaelod er mwyn mynd ar y tryc i Otsu felly a'th awr neu ddwy yn neud hwnna! Da'th teulu draw - a ie cwpl o beints fel o'n i'n gweud - ac o'dd hi'n neis.
Symud 'mlaen
Ni yn Otsu nawr - mae'n neis symud mas o Tokyo a chillo mas bach a chael cwpwl o ddiwrnodau bant o'r cae ymarfer hefyd. Mae'n galed i ffeindio stwff i neud 'ma ond ma tri i bedwar diwrnod o orffwys wedi bod yn beth da.
Ni 'di bod i weld bach o jet boat racing - ie, rhwbeth bach gwahanol! Modified jet skis y'n nhw sy'n edrych fel cwch. Ar ddamwain ffeindio ni fe - 100 yen, sef rhyw 70c, felly pam lai!
A fi di bod lan un o'r mynydde yn y cable car - o'dd hi'n neis edrych mas dros Lyn Biwa a chael awr neu ddwy lan 'na yn chillo mas gyda'r bois.
So chi mo'yn 'neud gormod chwaith - y nod yw rechargo'r batris! O'n i'n mynd i fynd i Hiroshima ond o'dd hi'n ddwy awr a hanner ar y trên a ma' rhaid i ni gofio pam bo' ni 'ma - ai i fynd rownd llefydd neu i ennill Cwpan y Byd?
Mae lot o'r bois yn chwarae gemau cyfrifiadur a chwarae cardiau 'fyd ond ma'r oedolion (fi!) bach yn fwy civilised!
'Chwaraewyr peryg' Fiji
Yr her nesa'? Fiji.
Naethon ni wylio 20 munud ola' gêm Georgia a Fiji. Ma' nhw 'di bwrw nôl ar ôl colli yn erbyn Uruguay a bydd yr hyder 'da nhw i geisio gorffen y grŵp 'ma ar nodyn positif a dal mynd trwyddo.
Ni'n canolbwyntio ar y gêm nesa' - bydd ennill yn erbyn Awstralia yn meddwl dim byd os na ni'n curo Fiji.
Ma'r ffocws ar y gêm 'ma achos ma' chwaraewyr peryglus gyda nhw a bydd angen i ni fod yn wyliadwrus o hwnna a pheidio gor-chwarae.
Ni'n edrych 'mlaen i fynd i Oita nawr a mynd nôl i'r cae cyn gynted â sy'n bosibl i gadw'r momentwm i fynd.
Croesi bysedd am fuddugoliaeth arall nawr! Tan tro nesa',
Ken