Beicio anghyfreithlon: 'Mater o amser' cyn damwain farwol

  • Cyhoeddwyd
Ymgyrch Red Mana

Mae Heddlu De Cymru'n gofyn am gymorth trigolion Caerdydd yn yr ymdrech i fynd i'r afael â'r defnydd anghyfreithlon o feiciau modur oddi ar y ffordd.

Maen nhw'n dweud ei fod yn "fater o amser" cyn bod rhywun yn cael eu lladd oni bai bod swyddogion yn dal y rhai sy'n gyfrifol.

Mae'r llu'n annog y cyhoedd i rannu gwybodaeth a lluniau o ddefnydd gwrthgymdeithasol o feiciau o'r fath i'w galluogi i fynd â'r cerbydau oddi ar y strydoedd.

Fis Gorffennaf, cafodd dyn 84 oed, John Miller, ei daro ar ôl i yrrwr golli rheolaeth ei feic yn honedig.

'Peryglu eu hunain ac eraill'

Mae'r Sarjant Duncan Mitchell o Heddlu De Cymru yn egluro mai "nid beiciau plant" sy'n cael eu defnyddio.

"Beiciau modur pwerus oddi ar y ffordd yw'r rhain," meddai, "yn aml, nid yw beicwyr yn defnyddio'r offer cywir i'w hamddiffyn.

"Maen nhw'n teithio ar ffordd ar gyflymder, heb helmedau heb unrhyw offer diogelwch. Maen nhw'n peryglu eu hunan ac eraill.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae pobl yn mynd i gael eu lladd," medd y Sarjant Duncan Mitchell, oni bai bod beicwyr anghyfrifol yn cael eu hatal

"Y neges i'r gymuned yw bod eu hangen arnom i fod yn glustiau a llygaid ar lawr gwlad - nid yn unig yn dweud wrthym am y broblem ond pwy sy'n gyfrifol - pa feiciau sy'n cael eu defnyddio ac os yn bosibl yn rhannu unrhyw luniau neu ddelweddau gyda ni.

"Mae angen i ni nodi pwy yw'r bobl hyn a ble mae'r beiciau'n cael eu storio er mwyn i ni allu delio â'r broblem yn llawn," ychwanegodd.

"Fodd bynnag, rwy'n pwysleisio na ddylai bobl roi eu hunain mewn perygl pan fyddan nhw'n gwneud hyn, ond rwy am iddyn nhw rannu unrhyw beth y maen nhw'n ei wybod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae plismyn a swyddogion cyngor yn cydweithio i fynd i'r afael â'r broblem yng Nghaerdydd

"Yn anffodus rydyn ni wedi colli sawl person, yn bennaf y beicwyr eu hunain i ddamweiniau ffordd a dyna'r brif neges rydyn ni am ei chyfleu - mae pobl yn mynd i gael eu lladd, mae pobl yn mynd i farw a hefyd mae plant bach mewn perygl.

"Mae parciau yn cael eu defnyddio gan blant ifanc ac mae'n fater o amser cyn i ni gael damwain angheuol yn ymwneud â pherson ifanc."

"Dy'n ni ddim yn ceisio atal pobol rhag cael hwyl, ond mae angen i bobl fod yn ymwybodol o'r peryglon a dyna ein prif neges yw bod angen addysgu pobol yn y maes."

Ffynhonnell y llun, Ian Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae beiciau modur wedi peryglu plant ar Barc Tremorfa, yn ôl Clwb Rygbi St Albans

'Beiciau modur yn bla'

Mae Clwb Rygbi St Albans wedi cael problemau gyda beiciau modur oddi ar y ffordd ar, ac o amgylch eu cae ar Barc Tremorfa.

Ian Watkins yw rheolwr y tîm ac mae wedi bod yn aelod o'r clwb ers 1976.

"Mae beiciau modur wedi bod yn bla yn y parc, yn gyrru ar y cae sy'n peryglu pawb sy'n defnyddio'r safle, yn enwedig plant ifanc.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa'n codi braw, medd rheolwr y clwb, Ian Watkins

"Mae'n gallu codi braw ar rywun. Rwy'n credu mai'r achlysur gwaethaf oedd pan 'oedd chwe beic ar y parc.

"Dim ond un ddamwain y mae'n ei gymryd, rhywun yn cael eu brifo, neu anaf angheuol a beth fydd yn digwydd wedyn?"

Ymgyrch Red Mana

Mae ymgyrch Red Mana yn gydweithrediad rhwng Heddlu De Cymru a Chyngor Caerdydd gyda'r nod o fynd i'r afael â'r defnydd anghyfreithlon o feiciau modur a'u cymryd oddi ar y ffordd.

Mae swyddogion yr awdurdod lleol yn reidio ar feiciau tra bod yr heddlu'n dilyn mewn ceir er mwyn dangos eu presenoldeb.

Ers mis Mai 2017, mae 29 o unigolion wedi cael eu dal yn gyrru heb drwydded fel rhan o'r ymgyrch.

Cafodd 38 eu cyfeirio at yr awdurdodau am ymddygiad gwrthgymdeithasol.