Prif Weinidog eisiau enw dwyieithog i'r Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi cadarnhau bydd Llywodraeth Cymru'n cefnogi cynnig sy'n ceisio sicrhau bod y Cynulliad yn cael enw dwyieithog pan fydd yn cael ei ail enwi.
Bydd ACau yn pleidleisio ddydd Mercher ar gynlluniau i newid yr enw presennol - Senedd.
Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn disgwyl i bobl ddefnyddio'r term Cymraeg wrth gyfeirio at y sefydliad pob dydd.
Ond ychwanegodd fod dadl dros gael mwy o eglurder yn y gyfraith.
Mae'r cyn brif-weinidog, Carwyn Jones wedi cyflwyno newid byddai'n golygu mai Senedd Cymru fyddai'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y Cynulliad yn y Gymraeg a'r term 'Welsh Parliament' yn cael ei ddefnyddio yn y Saesneg.
"Yn bersonol rwy'n defnyddio'r gair Senedd, a dwi'n siŵr yn gyffredinol dyna fyddai pobl Cymru yn ei wneud," meddai Mr Drakeford.
Ond fe eglurodd fod "angen bod yn glir o ran y gyfraith".
"Mae dadl wahanol rhwng yr hyn byddwn yn ei roi ar bapur a beth yw fy marn bersonol i o beth fyddai'n cael ei ddefnyddio o ddydd i ddydd," meddai.
Chwipio gweinidogion i gefnogi
Fe wnaeth Mr Drakeford gyfeirio at y term sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer Senedd Gweriniaeth Iwerddon.
"Rydym wastad yn defnyddio'r esiampl o'r Dáil yn yr Iwerddon - dim ond Dáil mae pobl yn ei ddefnyddio.
"Ar bapur ac yn gyfreithiol mae term ehangach na hynny."
Fe wnaeth Mr Drakeford hefyd gadarnhau byddai gweinidogion y llywodraeth yn cael eu chwipio i gefnogi cynnig Carwyn Jones.
Ond, dywedodd y byddai aelodau meinciau cefn Llafur yn cael pleidlais rydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2018