Casglwyr sbwriel yn bygwth streic dros ddiswyddiadau

  • Cyhoeddwyd
Lori sbwriel
Disgrifiad o’r llun,

Mae staff yn honni eu bod wedi cael caniatâd i fynd adre'n gynnar ar ôl cwblhau'u holl waith am y diwrnod

Mae casglwyr sbwriel yng Nghaerffili'n ystyried gweithredu diwydiannol gan honni bod gweithwyr wedi cael eu diswyddo'n annheg am orffen shifft yn gynnar.

Maen nhw'n mynnu bod rheolwyr llinell wedi rhoi caniatâd iddyn nhw fynd adref ar ôl cwblhau'u holl ddyletswyddau am y diwrnod.

Hefyd maen nhw'n cyhuddo rheolwyr o ysbïo ar staff gyda chamerâu CCTV a osodwyd ar gerbydau i atal trosedd.

Mae'r cyngor wedi diswyddo saith o weithwyr ac mae'n ymchwilio i achos 20 yn rhagor.

Cadarnhaodd Cyngor Caerffili bod staff yn destun ymchwiliad, gan ddweud bod y defnydd o CCTV yn unol â pholisi y cytunwyd arno.

'Blin a phenderfynol'

Fe brotestiodd dwsinau o gasglwyr sbwriel tu allan i swyddfeydd y cyngor yr wythnos ddiwethaf.

Fe alwodd cynrychiolwyr undeb Unison ar uwch swyddogion "i siarad gyda ni a stopio'r diswyddiadau", gan honni bod y cyngor wedi colli ymddiriedaeth 200 o weithwyr casglu sbwriel.

Ffynhonnell y llun, Unison
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithwyr wedi cynnal protest yn erbyn y diswyddiadau

"Roedd protest ddydd Iau diwethaf yn dangos bod staff yn flin iawn ac yn benderfynol o warchod cydweithwyr sydd wedi'u diswyddo'n annheg," medd trefnydd rhanbarthol yr undeb, Jess Turner.

"Mae'r dynion yma'n gweithio'n galed i waredu ein strydoedd o sbwriel ymhob tywydd... os maen nhw'n parhau i ddiswyddo pobl am ddilyn gorchmynion eu goruchwylwyr neu dorri mân reolau, bydd Unison a'r GMB yn cynnal pleidlais gweithredu diwydiannol."

'Seiliau priodol' cyn disgyblu

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerffili "bod nifer o staff gwasanaeth rheoli gwastraff y cyngor dan ymchwiliad ar hyn o bryd".

"Mae'r cyngor ond yn cymryd camau disgyblu yn erbyn gweithiwr os oes yna seiliau priodol i gynnal y fath ymchwiliad.

"Yn yr achos yma, mae'r cyngor yn dilyn polisi a gytunwyd arno mewn cysylltiad â lluniau CCTV sydd wedi ei gefnogi gan Unison a'r GMB."

Ychwanegodd bod disgwyl i'r ymchwiliad i faterion rheoli amser gael ei gwblhau o fewn yr ychydig fisoedd nesaf.