'Colli plentyn wnes i erioed adnabod’

  • Cyhoeddwyd
Esyllt Sears a'i phlantFfynhonnell y llun, Esyllt Sears
Disgrifiad o’r llun,

Esyllt Sears a'i phlant

Yn ystod Wythnos Codi Ymwybyddiaeth o Golli Babi, mae'r gomedïwraig Esyllt Sears yn ysgrifennu o'r galon am ei phrofedigaeth a'i galar ar ôl colli babi.

Erbyn cyrraedd 38 oed, mae'n eitha' saff i ddweud y bydd y rhan fwyaf ohonom ni wedi profi rhyw fath o alar - boed hynny o ganlyniad i golli mam-gu neu tad-cu, ffrind, anifail anwes…'wi wedi colli sawl un o'r rhain dros y blynyddoedd.

Ond mae 'na un golled yn arbennig 'wi'n ei chael hi'n anodd i fynegi'n iawn; sef colli plentyn wnes i erioed adnabod, na hyd yn oed gyfarfod.

Roedd gan y gŵr a fi un plentyn, ac wrth iddi hi ddechrau cysgu a bihafio'n well, dyma ni'n 'neud be' mae sawl rhiant yn gwneud a chymryd cam enfawr yn ôl a phenderfynu cael babi arall.

Dyma ni'n darganfod yn Hydref 2015 fy mod i'n disgwyl, ond ar noswyl Nadolig yr un flwyddyn, derbynion ni'r newyddion fod y beichiogrwydd wedi dod i ben.

Pob galar yn wahanol

Weithiau, pan 'wi'n dweud mai wyth wythnos yn feichiog o'n i ar y pryd, 'wi'n ymwybodol fod rhai yn credu bod hynna'n 'neud e'n haws. O leia' doedd y babi ddim yn hŷn. Dyw e ddim fel colli plentyn sy' eisioes wedi ei eni.

Wel, nadi, ond mae pob galar yn wahanol a dyw'r ffaith mai dim ond wyth wythnos oedd wedi mynd heibio, yn fy mhrofiad i, ddim yn ei 'neud yn haws.

Dyma'r galar gwaethaf i fi erioed brofi. A'r ymateb yn anifeilaidd bron. Yr udo, y crio a'r sgrechian o rwystredigaeth na allwn i wneud dim i stopio hyn rhag digwydd.

Fi oedd ei fam e. Do'n i heb ddechre 'dangos' eto ond ro'n i'n teimlo'n sâl, yn datblygu cravings, yn sylwi bod fy hips i'n dechrau lledu, yn gallu cymryd naps tair awr o hyd…

Ro'n i wedi dechrau dychmygu sut byddai fy merch yn dod ymlaen â'r babi yma, a fydden nhw'n ffrindiau pennaf, fel pwy y byddai'n edrych, be' fyddai ei hoff degan, pa gân fyddai'n hoffi ei chlywed hyd syrffed… pob dim wnes i brofi gyda 'mhlentyn cyntaf.

A hynna i gyd yn gawlach â'r teimlad y dylswn i, fel ei fam, fod wedi gallu gwneud rhywbeth i'w amddiffyn neu ei achub.

Ond fel ym mhrofiad y ganran helaeth o famau sy'n mynd drwy'r un profiad, yn aml does yna ddim byd y gallech chi fod wedi ei wneud yn wahanol i newid y canlyniad.

Ffynhonnell y llun, Esyllt Sears

Hawl i alaru

'Wi'n cofio gwaedu am ryw saith wythnos ar ôl yr ymweliad â'r ysbyty. Atgof, bob tro y byddwn i'n mynd i'r tŷ bach, fod hyn yn digwydd. Yna'r chware meddyliau. Gyda phob clot neu ddarn cnawdog fyddai'n ymddangos, baswn i'n cwestiynu, ai dyna fy mabi i?

Mae pawb yn delio gyda galar yn wahanol. I fi, trio am fabi arall yn syth oedd yn gwneud synnwyr a bues i'n ffodus tu hwnt i roi genedigaeth i fachgen bach iachus a hapus yn niwedd 2016. Wnaeth hynna ddim cael gwared o'r tristwch ond mae'n ei wneud yn fwy bearable, gwbod na fyddai e'n bodoli heb y golled yna.

'Wi wedi siarad yn agored am hyn ers iddo ddigwydd achos, fel profiad na fyswn i'n ei ddymuno ar fy ngelyn pennaf, 'wi am i fenywod a'u partneriaid wbod ei fod yn iawn i alaru, i grio am y peth tair, deg, 20 mlynedd yn ddiweddarach.

I fi, bydd wastad gen i dri phlentyn, jest mod i ddim wedi bod digon ffodus i adnabod, na hyd yn oed gyfarfod un ohonyn nhw.

Hefyd o ddiddordeb: