Pum ceffyl wedi marw a dyn yn yr ysbyty wedi tân sgubor
- Cyhoeddwyd
Mae pum ceffyl wedi marw a dyn wedi'i gludo i'r ysbyty yn dilyn tân mewn sgubor yn Abertawe.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i Heol Ty-draw, Bôn-y-maen toc cyn 04:00 fore Mawrth.
Cafodd dyn ei gludo i'r ysbyty gan y gwasanaeth ambiwlans ond bu farw'r ceffylau yn y tân.
Nid yw'n glir pa mor ddifrifol yw anafiadau'r dyn.
Cafodd y sgubor - yn mesur 15 metr wrth 5 metr - ei dinistrio gan y fflamau.
Fe adawodd y gwasanaeth tân y digwyddiad am 06:30.
Roedd yr heddlu yn bresennol hefyd, ac mae yna ymchwiliad i achos y tân.