Cyhoeddi enw dynes fu farw ym Mhontypridd
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes fu farw yn dilyn digwyddiad ym Mhontypridd.
Roedd Sarah Hassall, 38, yn wreiddiol o Chelmsford yn Essex.
Cafodd Ms Hassall ei chanfod ar ôl i'r heddlu gael eu galw i gyfeiriad yn Llys Graig Y Wion ddydd Sul.
Mae dyn 37 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.
'Ffrind gorau'
Wrth roi teyrnged, dywedodd teulu Ms Hassall ei bod yn "ffrind gorau" ac y byddai'r teulu'n "ddiolchgar am y cyfnod byr y cawsom yn ei chwmni".
"Roedd Ms Hassall yn aelod o'r Awyrlu am 14 mlynedd, gan ganolbwyntio ar waith chwilio ac achub mynyddig, a chynrychioli ei hunedau mewn cystadlaethau dringo a rhedeg.
"Gadawodd y fyddin yn 2010 i ymgymryd â heriau newydd - magu dau fab ifanc, Owain ac Evan."
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.