Llofruddiaeth Pontypridd: Dyn yn ymddangos yn y llys

  • Cyhoeddwyd
Sarah HassallFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Daeth heddlu o hyd i gorff Sarah Hassall fore Sul

Mae dyn 37 oed wedi ymddangos gerbron ynadon Merthyr Tudful i wynebu cyhuddiad o lofruddio menyw ym Mhontypridd.

Daeth yr heddlu o hyd i gorff Sarah Hassall, 38 oed, mewn eiddo yn Llys Graig y Wion fore Sul, 6 Hydref.

Ymddangosodd Brian Manship yn y gwrandawiad pedwar munud gan gadarnhau ei enw, ei oed a'i gyfeiriad ym Mhontypridd.

Fe wnaeth yr ynadon yrru'r achos i Lys y Goron, ac fe fydd gwrandawiad yn Llys y Goron Merthyr Tudful fore Iau, 9 Hydref.

Dywedodd cyfreithiwr Mr Manship na fyddai'n gwneud cais am fechnïaeth, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.