Cwpan Rygbi'r Byd: Cymru 29-17 Fiji
- Cyhoeddwyd
Roedd sawl un wedi darogan gêm galed i Gymru, ond siawns nad oedd llawer wedi meddwl y byddai mor galed â hyn?
Roedd yr ochenaid o ryddhâd gan gefnogwyr Cymru i'w glywed o bell wrth i dîm Warren Gatland ddod yn ôl ddwywaith o fod ar ei hôl hi.
Blerwch amddiffynnol oedd yn gyfrifol pan sgoriodd Fiji ddau gais ym munudau agoriadol yr hanner cyntaf, a Josh Adams oedd yn euog o fethu tacl ar y ddau achlysur.
Yn ffodus i Gymru, methu gyda'r ddau drosiad wnaeth Ben Volavola.
Gallai pethau fod wedi bod yn llawer gwaeth. Rhwng y ddau gais fe welodd Ken Owens gerdyn melyn am dacl beryglus, ond fyddai gan y clo ddim lle i gwyno pe byddai'r cerdyn wedi bod yn goch.
Ond yna daeth cerdyn melyn arall - i Tevita Cevubati o Fiji y tro hwn - ac fe newidiodd pethau'n gyflym. Josh Adams ddaliodd gic uchel Biggar i dirio yn y gornel cyn croesi am ail gais.
Gyda chiciau cywir Dan Biggar, roedd Cymru ar y blaen ar yr egwyl o 14-10.
Yn ôl y disgwyl roedd Fiji ar dân ar ddechrau'r ail hanner, ac fe dalodd hynny wrth iddyn nhw gael cais cosb i fynd ar y blaen unwaith eto.
Yna daeth y foment allai beryglu gobeithion Cymru yng ngweddill y gystadleuaeth. O dan y bêl uchel roedd dryswch gyda Liam Williams yn hyrddio i mewn i ben Biggar.
Roedd y tîm meddygol ar y cae yn syth gyda Biggar yn amlwg yn anymwybodol am gyfnod byr, ac er iddo fedru cerdded oddi ar y cae mae amheuaeth amlwg a fydd yn medru aros yn Japan.
Rhys Patchell ddaeth ymlaen yn ei le, ac fe ychwanegodd gôl gosb i gau'r bwlch cyn i Gymru gael cais gorau'r gêm. Jonathan Davies redodd ar hyd yr ystlus cyn rhyddhau Adams i'r gornel am ei hat-tric.
Daeth cais arall - i Liam Williams - i goroni'r fuddugoliaeth, ond roedd y canlyniad yn y fantol tan y deng munud olaf. Roedd hon yn gêm galed.
Mae Cymru felly yn sicr o'u lle yn rownd yr wyth olaf. Bydd buddugoliaeth yn erbyn Uruguay fore Sul yn eu gosod ar frig eu grŵp.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2019
- Cyhoeddwyd23 Medi 2019