Carchar i yrrwr am daro seiclwyr a'u 'gadael i farw'

  • Cyhoeddwyd
Louise GriffithsFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Mae Louise Griffiths wedi ei gwahardd rhag gyrru am bedair blynedd

Mae gyrrwr wnaeth daro tri pherson oedd ar eu beiciau, gan adael un gydag anafiadau difrifol, wedi cael ei charcharu am ddwy flynedd a thri mis.

Fe achosodd Louise Griffiths, 46 oed o Gwmbrân, "gyflafan" ar ôl bod yn yfed ym mis Chwefror.

Fe wnaeth hi gyfaddef achosi anaf difrifol yn sgil yfed a gyrru yn Llys y Goron Casnewydd.

Roedd Gerald Barnes a'i wraig Dr Katherine Barnes yn seiclo gyda'i chwaer hi, Caroline James a'i chariad Martin Burrows ger Brynbuga pan gafodd tri ohonynt eu taro gan y car am tua 16:00 y prynhawn.

Clywodd y llys eu bod wedi eu "gadael i farw" gan Griffiths, wnaeth yrru i ffwrdd.

Cafodd Ms James driniaeth wnaeth achub ei bywyd gan ei chwaer. Roedd wedi torri ei chefn a'i phelfis.

"Mae'r ffaith ein bod ni wedi cael ein gadael i farw ar ochr y ffordd yn rhywbeth wnâi byth ddeall na dod i delerau ag o," meddai Dr Barnes.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys bod Louise Griffiths yn edifar am yr hyn yr oedd hi wedi'i wneud

Roedd Griffiths wedi ymweld â thafarndai'r prynhawn hwnnw ac wedi bod yn yfed hefyd y noson gynt nes oriau man y bore.

Daeth yr heddlu o hyd i'w char yn ddiweddarach ac fe gafodd brawf i weld faint o alcohol oedd yn ei gwaed, ond roedd problem gyda'r peiriant.

Dangosodd sampl gwaed bod ganddi 33mg o alcohol ym mhob 100ml o waed. 80mg yw'r uchafswm cyfreithiol.

Dywedodd y barnwr, Daniel Williams: "Doeddech chi ddim yn gallu gwybod ond mi oeddech chi yn poeni eich bod chi dros yr uchafswm cyfreithiol.

"Ond fe wnaethoch chi gymryd y risg yna. Trwy wneud hynny fe dalodd Caroline James y pris uchaf."