Arestio dau wedi i gar daro cerddwr yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd
Heol y CeiFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heol y Cei, y B4237, yn cysylltu Maendy a chanol Casnewydd

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar ôl i gerddwr gael ei daro gan gar yng Nghasnewydd ddydd Mawrth.

Fe gadarnhaodd Heddlu Gwent bod dyn 24 oed o ardal Casnewydd yn y ddalfa ac yn cael ei holi ar amheuaeth o geisio llofruddio, a bod dyn 38 oed o'r un ardal wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae'r cerddwr, dyn 22 oed o ardal Casnewydd, yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu oedd yn gyrru ar hyd Heol y Cei ar adeg y digwyddiad, i gysylltu â nhw.