Ryan Giggs: Cymru 'methu fforddio colli' yn Slofacia
- Cyhoeddwyd
Dydy Ryan Giggs ddim yn credu fod y gêm yn erbyn Slofacia yn un y mae'n rhaid i Gymru ei hennill, wrth i'r tîm cenedlaethol geisio am le yn rowndiau terfynol Euro 2020.
Mae Cymru, sydd â phedwar gêm yn weddill, yn y pedwerydd safle yng Ngrŵp E, y tu ôl i Croatia, Slofacia a Hwngari.
Ond bydda nhw'n teithio heb y chwaraewr canol cae dylanwadol, Aaron Ramsey, sy'n ceisio adfer ei ffitrwydd cyn y gêm yn erbyn Croatia.
Gydag un gêm mewn llaw dros y gweddill, mae Giggs yn credu bod modd i Gymru gyrraedd y nod hyd yn oed os nad ydyn nhw'n fuddugol yn Slofacia.
"Rydym am fynd i'r gemau olaf gyda'n ffawd yn nwylo ein hunain," meddai.
Ar ôl chwarae Slofacia ddydd Iau bydd Cymru'n wynebu Croatia yng Nghaerdydd nos Sul.
Mae Giggs yn creu fod y gêm nos Iau yn un na all Cymru fforddio ei cholli, yn hytrach nag un un mae'n rhaid ei hennill.
"Gallwn dal fod â siawns hyd yn oed os oes un neu ddwy gêm gyfartal," meddai wrth BBC Cymru.
"Ond wedyn byddai ein ffawd ddim yn ein dwylo ni. Yn ddelfrydol fe fyddwn ni'n ennill y gemau yma."
Ychwanegodd: "Mae yna gymaint o senarios gwahanol, ac fe allai'r cyfan ddibynnu ar ganlyniadau'r timau yn erbyn ei gilydd.
"Mae yna ddwy gêm fawr nawr, a phedair gêm ar ôl."
Bydd y tîm yn teithio i Azerbaijan ar 16 Tachwedd, cyn gorffen gyda gêm gartref yn erbyn Hwngari ar 19 Tachwedd.
"Ar ddechrau'r grŵp byddwch yn credu y byddai 15 pwynt yn sicrhau llwyddiant, ond mae hynny'n newid drwy'r amser oherwydd bod pawb yn curo ei gilydd," meddai Giggs.
Mae Croatia ar frig Grŵp E gyda 10 pwynt o bum gêm, gyda Slofacia yn ail a Hwngari yn dilyn - y ddau ar naw pwynt.
Mae Cymru ar chwe phwynt, ond wedi chwarae un gêm yn llai.
Aros i asesu Aaron
Ddydd Mercher cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru nad oedd Aaron Ramsey yn ffit ac na fyddai'n teithio i Slofacia.
Ond fe fydd y chwaraewr canol cae yn parhau i hyfforddi gan obeithio bod yn holliach i wynebu Croatia.
Mae Tom Lawrence, chwaraewr Derby County, hefyd ag anaf ac roedd yn absennol o'r sesiwn ymarfer ddydd Llun.
Bydd Lawrence yn wynebu achos llys ar gyhuddiad o yfed a gyrru ddau ddiwrnod ar ôl i Gymru chwarae Croatia.
Mae Cymru heb yr amddiffynnwr Chris Mepham, ac felly mae'n edrych yn debyg y bydd Ashely Williams, sydd bellach yn chwarae'n rheolaidd i Bristol City, yn dychwelyd i'r tîm.
Ni chafodd Williams ei gynnwys yn y garfan ddiwethaf oherwydd nad oedd ganddo glwb.
Mae'r ddau dîm wedi cwrdd pedwar o weithiau yn y gorffennol, gyda Chymru yn fuddugol tair gwaith a Slofacia unwaith.
Roedd buddugoliaethau Cymru'n cynnwys y gêm rhwng y ddwy wlad yn rowndiau terfynol Euro 2016 yn Ffrainc.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd6 Medi 2019
- Cyhoeddwyd26 Medi 2019