Cwpan y Byd: 13 newid i dîm Cymru i herio Uruguay
- Cyhoeddwyd
Mae Warren Gatland wedi gwneud 13 newid i'r tîm drechodd Fiji i herio Uruguay yng Nghwpan Rygbi'r Byd ddydd Sul.
Hon fydd gêm grŵp olaf Cymru a dyw'r newidiadau ddim yn annisgwyl.
Gyda'r crysau cochion eisoes wedi sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf mae cyfle i arbrofi rywfaint gyda'r canolwr Hadleigh Parkes a'r asgellwr Josh Adams - yr unig ddau i gadw eu lle wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Fiji.
Y blaenasgellwr Justin Tipuric sy'n gapten wrth i Alun Wyn Jones gael seibiant.
Mae'r clo Adam Beard wedi ei gynnwys ar ôl gwella wedi llawdriniaeth i dynnu ei bendics.
Rhys Patchell sydd yn dechrau yn safle'r maswr.
Mae Hallam Amos yn cael ei gyfle cyntaf yn y gystadleuaeth a hynny ar yr asgell chwith, tra bod Bradley Davies, y bachwr Ryan Elias a'r mewnwr Aled Davies hefyd yn dechrau am y tro cyntaf yn Japan.
Oherwydd anafiadau a'r amser byr rhwng y ddwy gêm grŵp olaf dim ond dau olwr sydd ar y fainc - y mewnwyr Gareth Davies a Tomos Williams.
Tywydd garw
Dau bwynt sydd ei angen ar Gymru yn erbyn Uruguay i orffen ar frig grŵp D.
Fe fyddai hynny yn arwain at ornest yn erbyn Ffrainc yn y chwarteri ar ol i'w gêm grŵp olaf nhw yn erbyn Lloegr gael ei chanslo oherwydd teiffŵn Hagibis.
Fe allai'r tywydd garw yn ardal Tokyo dros y penwythnos effeithio ar bedair gêm arall gan gynnwys y gêm allweddol yng ngrŵp A rhwng Japan a'r Alban.
Mae disgwyl penderfyniad ynglyn â'r gemau hynny fore Sul.
Bydd modd dilyn y gêm o Stadiwm Kumamoto ar lif byw Cymru Fyw fore Sul, gyda'r gic gyntaf am 09:15 amser Cymru.
Tîm Cymru
Leigh Halfpenny; Josh Adams, Owen Watkin, Hadleigh Parkes, Hallam Amos; Rhys Patchell, Aled Davies; Nicky Smith, Ryan Elias, Dillon Lewis, Bradley Davies, Adam Beard, Aaron Shingler, Justin Tipuric (C), Aaron Wainwright.
Eilyddion:Elliott Dee, Rhys Carre, Wyn Jones, Jake Ball, Ross Moriarty, James Davies, Tomos Williams, Gareth Davies.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2019