Blog Gareth Charles: Cwpan Rygbi'r Byd yn llygad y storm

  • Cyhoeddwyd
HagibisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r trefnwyr wedi cael eu beirniadu am beidio cael trefniadau wrth gefn a hithau'n dymor y teiffwnau

Os mai tawelwch cyn y storm oedd hi i Gymru yr wythnos ddiwethaf, yr wythnos hon mae trefnwyr Cwpan y Byd wedi cael eu dal reit yn llygad y storm.

Mae dyfodiad teiffŵn Hagibis eisoes wedi arwain at ganslo gemau rhwng Lloegr a Ffrainc a Seland Newydd a'r Eidal.

Efallai na fydd hynny'n cael unrhyw effaith bellgyrhaeddol ar y gystadleuaeth ynddyn nhw'u hunain ond nid dyna ddiwedd y stori.

Ar lefel bersonol mae bachwr Yr Eidal, Leonardo Ghiraldini a'u capten carismataidd, Sergio Parisse wedi colli mas ar y cyfle i orffen eu gyrfa ryngwladol ar nodyn uchel.

Byddai'r Alban yn gandryll pe byddan nhw'n mynd mas o'r gystadleuaeth os bydd eu gêm yn erbyn Japan ddydd Sul hefyd yn cael ei chanslo.

Mae'r trefnwyr mewn lle anodd - diogelwch y chwaraewyr a'r cyhoedd yw'r brif ystyriaeth ond gan fod y gystadleuaeth wedi'i threfnu yn ystod tymor y teiffwnau, oni ddylai trefniadau amgen fod wrth gefn?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth amryw o chwaraewyr Cymru ddioddef anafiadau yn y gêm yn erbyn Fiji

Gwneud trefniadau ar gyfer rownd yr wyth olaf mae Cymru bellach ar ôl gêm a hanner yn erbyn Fiji.

Perfformiad arall yn llawn cymeriad yn erbyn tîm sy'n haeddu llawer mwy o gyfle ar y lefel uchaf, ond gêm gorfforol sydd wedi gadael ei hôl.

Ar ôl cael cnoc ar ei ben am yr ail gêm yn olynol bydd yn rhaid i Dan Biggar fynd drwy'r camau priodol yn y gobaith o fod yn holliach i wynebu Ffrainc neu Loegr y penwythnos nesaf, a bydd mawr angen i Jonathan Davies wella o'r anaf i'w ben-glin hefyd.

O leiaf mae Josh Adams yn holliach, a'n syth nôl mewn i wynebu Uruguay, fel mae Hadleigh Parkes, gafodd sawl clatsien yn ei asennau gan y "flying Fijians".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid i Dan Biggar fynd drwy asesiad anaf i'w ben cyn cael chwarae yn rownd yr wyth olaf

Heblaw am hynny mae'r tîm yn gyfan gwbl ar ei newydd wedd a bydd y pump olaf sydd heb chwarae o gwbl hyd yn hyn yn cael eu blas cyntaf o Gwpan y Byd.

Erbyn diwedd nos Sul fe fyddwn ni'n gwybod a fydd blas cas yng nghegau'r Albanwyr, neu a fydd gwên ar eu hwynebau wedi'r cyfan?

Bydd modd dilyn y gêm rhwng Cymru ac Uruguay ar lif byw Cymru Fyw fore Sul, gyda'r gic gyntaf am 09:15 amser Cymru.