Mapio longddrylliadau'n helpu datblygu prosiectau ynni
- Cyhoeddwyd
Mae astudiaeth sy'n mapio cannoedd o longddrylliadau ar hyd arfordir Cymru'n chwarae rhan bwysig yn natblygiad ynni cynaliadwy, yn ôl un o wyddonwyr Prifysgol Bangor.
Mae arbenigwyr gwyddorau eigion wedi bod yn defnyddio sonar i arolygu llongau a suddodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ond bydd prosiectau gwyrdd hefyd yn elwa o'r data am lanwau a'r gwely môr.
Yn ôl Dr Mike Roberts mae arfordir Cymru â rhinweddau "unigryw" o ran ynni morol.
Mae'r gwaith yn "bwysig eithriadol" o ran datblygu ynni ar y môr yng Nghymru, yn ôl Renewable UK, y corff sy'n cynrychioli diwydiant ynni gwynt, tonnau a llanw'r DU.
Gan ddefnyddio pelydrau sonar y llong ymchwil Prince Madog, mae'r gwyddonwyr wedi arolygu dros 300 o longddrylliadau ym Môr Iwerddon, gan gynnwys llawer a suddodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
'Cyfoeth o hanes'
"Tra bo'r hen weddillion rhyfel yma'n darparu gwybodaeth werthfawr i haneswyr ac archeolegwyr, fe allen nhw hefyd helpu creu diwydiant newydd," meddai Dr Roberts.
"Mae'r data rydyn ni'n ei gasglu'n rhoi goleuni unigryw ar ddylanwad y llongddrylliadau ar brosesau ffisegol a biolegol yr amgylchedd morol.
"Mae pob llongddrylliad â'i hanes ei hun. Mae yna gyfoeth o hanes ac rydym yn gobeithio casglu mwy flwyddyn nesaf."
Trwy astudio'r llongddrylliadau, mae gwyddonwyr yn asesu effaith bod dan dŵr am ddegawdau.
Mae hynny wedyn yn gwella'r ddealltwriaeth am amodau gwely'r môr, gan gyfrannu at ddatblygu prosiectau ynni adnewyddol yn y dyfodol.
Mae'r ymchwil eisoes wedi chwarae rhan mewn dau brosiect - cynllun Morlais oddi ar arfordir Môn, a chynllun ynni'r tonnau i'r de o Sir Benfro, lle mae bwriad i ddechrau codi safle prawf yn ystod 2020.
"Mae'n uchelgais yng Nghymru i gynhyrchu ynni o'r môr," meddai Dr Roberts. "Mae'n le unigryw i wneud hynny... nid pobman sydd â cherrynt cryf a thonnau mawr i'r un graddau â Chymru.
"Os am osod llawer o beiriannau ar wely'r môr mae angen gwybod beth fydd yr effaith am waelod y môr. Gallai suddo neu gael ei gladdu dan waddod (sediment).
"Rydym yn gobeithio cynnig gwybodaeth.... am y mannau mwyaf sefydlog i wneud hyn."
Dywedodd Rhys Jones, pennaeth Renewable UK Cymru, bod yr ymchwil yn "bwysig ofnadwy oherwydd mae gwynt y môr yn amlwg yn mynd i gyfrannu fwyfwy at allu Cymru a'r DU i gynhyrchu ynni cynaliadwy yn y degawdau nesaf".
"Mae yna botensial am ddatblygiadau mewn dyfroedd dyfnach oherwydd rhinweddau cynyddol y tyrbinau eu hunain, felly mae technoleg fel hyn â rhan wirioneddol yn nyfodol datblygu gwynt o'r môr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd26 Medi 2019
- Cyhoeddwyd25 Medi 2017