Y Swyddfa Gartref yn bygwth alltudio merch ddwy oed
- Cyhoeddwyd
Mae merch ddwy oed o Glydach yn wynebu cael ei gyrru o'r wlad am bod ei fisa wedi dod i ben.
Dywedodd ei mam fod penderfyniad y Swyddfa Gartref i wrthod ymestyn fisa ei merch yn "annynol".
Symudodd Lindsay Dutton o Dde Affrica i Gymru y llynedd, ac mae ganddi basport Prydeinig llawn, ond mae fisa ei merch, Lucy, wedi dod i ben ac mae'r Swyddfa Gartref wedi gwrthod ei ymestyn.
Nawr mae Lindsay angen £3,000 i apelio yn erbyn y penderfyniad, ond mae'n dweud nad oes ganddi'r arian.
Pasbort dilys
Mae brawd a mam Lindsay yn byw yng Nghymru, ac mae ei chyn-bartner - tad Lucy - a'i rieni, hefyd yn byw yn y DU, ac mae gan bob un ohonynt basport Prydeinig dilys.
Mae'n golygu nad oes gan Lucy unrhyw deulu ar ôl yn Ne Affrica - y wlad lle cafodd ei geni.
"Rydym yn ddigalon iawn," meddai Lyndsey.
"Dwi wedi bod yn sâl, yn crynu a llefain, ac yn methu parcio fy nghar am bod fy nerfau mor ddrwg - methu gwneud pethau syml am fy mod i mewn cymaint o stâd.
"Dwi methu cysgu gyda'r nos. Heb gymorth fy ffrindiau a'm cyd-weithwyr mi fyddwn i'n waeth."
Yn ôl llythyr y Swyddfa Gartref, os nad yw Lucy yn apelio yn erbyn y penderfyniad, bydd rhaid iddi adael y wlad o fewn 14 diwrnod. Maent yn dadlau y dylai ddychwelyd i Dde Affrica gyda'i rhieni.
Maen nhw'n honni hefyd nad oes gan Lucy hawl i aros yma am nad yw hi wedi byw yma am saith mlynedd yn ddi-dor, ac am eu bod wedi methu cyflwyno tystiolaeth i brofi'r cysylltiad teuluol sydd ganddi yma.
Hawliodd ei rhieni ddinasyddiaeth Prydeinig trwy eu rhieni hwythau - ond nid yw'n bosib i genhedlaeth arall wneud yr un fath, sy'n golygu nad oes gan Lucy hawl awtomatig i aros yma.
Mae'r Swyddfa Gartref yn dilyn llythyren y ddeddf, ond maen nhw'n gallu defnyddio'u doethineb mewn achosion mewnfudo.
Dywedodd AS Gŵyr, Tonia Antoniazzi, fod yr achos yn un anhygoel.
"I feddwl bod plentyn dwy oed wedi cael ei gwrthod am fisa - mae tu hwnt i grediniaeth," meddai.
"Mae gan y babi yma ddau riant yn y DU, mae ei mam-gu a thad-cu ar ochr ei thad a'i mam yn byw yma, ac mae'n dorcalonnus bod y Swyddfa Gartref yn disgwyl i blentyn dwy oed a'i rhieni symud yn ôl i Dde Affrica."
Mae hi wedi ysgrifennu at y llysoedd yn gofyn iddyn nhw ddefnyddio'u doethineb a hwyluso pethau i'r teulu.
Dywedodd y Swyddfa Gartref fod pob achos yn cael ei ystyried yn unigol, ac nad oedd hi'n addas iddyn nhw wneud datganiad tra bod y mater hwn yn parhau.