Ateb y Galw: Y newyddiadurwr Catrin Nye

  • Cyhoeddwyd
Catrin NyeFfynhonnell y llun, Catrin Nye

Y newyddiadurwr Catrin Nye sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Seren Jones yr wythnos diwethaf.

Ganwyd Catrin yn Aberhonddu, a'i magu ym mhentref Cwmbach rhwng Aberhonddu a'r Gelli Gandryll, ond mae hi nawr yn byw yn Llundain. Mae hi wedi gweithio i'r BBC ers 16 o flynyddoedd, ac ar hyn o bryd yn ohebydd gyda Victoria Derbyshire Programme a Panorama.

Mae hi'n aelod o'r tîm a enillodd BAFTA Cymru 2019 yn y categori Newyddion a Materion Cyfoes am y rhaglen The Universal Credit Crisis.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mae'n un ychydig yn rhyfedd, dweud y gwir, a dwi'n meddwl y byddwn i wedi bod tua pump, sydd yn eitha' hwyr. Eistedd mewn pwll padlo gyda fy ffrind gorau, Morwenna, yn bwyta toasties caws - 'naethon ni eu gollwng yn y dŵr, ac oedden ni wir wedi ypsetio.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Roedd gen i crush enfawr ar Nick o Backstreet Boys. Dwi'n cofio torri nghalon go iawn pan nes i sylweddoli na fyddwn i'n cael ei briodi. Gwers bywyd cynnar bo' ti ddim yn gallu cael beth wyt ti eisiau bob amser.

Ffynhonnell y llun, Ron Galella
Disgrifiad o’r llun,

Nick oedd yr aelod o Backstreet Boys i chi, os oeddech chi'n hoffi gwallt melyn mewn cyrtens...

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Yn ystod fy mharti plu, 'nes i dorri fy nwy benelin yn syrthio tra'n dawnsio ar wely. Roedd cerdded i mewn i'r swyddfa ar y Dydd Llun yn eitha' annifyr (ond hefyd yn ddoniol iawn).

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dwi newydd ddychwelyd o Norwy, ac es i'n reit ddagreuol mewn cyfweliad gyda mam mas yno sydd wedi colli ei merch. 'Nath hi ei disgrifio i mi, a sut beth ydi trio byw hebddi hi, ac roedd hi'n amhosib peidio â chael eich effeithio gan ei stori.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes! Mae hyn yn eitha' afiach, ond dwi'n hoffi pigo pethau - fel crachod a sbotiau. Dwi wrth fy modd yn gwasgu sbotiau fy mhartner - mae e'n ei gasáu e...

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dwi'n meddwl fod hyn yn newid, ond ar hyn o bryd, carafan bach rydyn ni'n aros ynddi ger Dinbych-y-Pysgod. Aethon ni bedair gwaith y llynedd, a hyd yn oed yn y glaw, mae e'r lle mwya' prydferth. Mae mewn gwersyll sydd heb reolau neu reolaeth call, felly mae'n teimlo fel gallwch chi adael y byd ar ôl.

Ffynhonnell y llun, Catrin Nye
Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin yn hoffi dianc i'w charafan ger Dinbych-y-Pysgod mor aml â phosib

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Y noson gynta' i mi gusanu fy mhartner.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Gonest, hapus, busneslyd.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

In Cold Blood gan Truman Capote.

O archif Ateb y Galw:

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Barack Obama - achos dwi'n meddwl y byddai'n lot o hwyl ac â digon o straeon da i'w datgelu.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n nofwraig ofnadwy. Sydd yn reit wael, o ystyried mod i wedi treulio lot o fy mhlentynod yn y Gwy.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Ei dreulio gyda'r bobl dwi'n eu caru fwya' - sy'n swnio'n ofnadwy o cheesy, ond dwi'n poeni mwy am pwy sydd gyda fi na lle ydw i neu beth dwi'n ei wneud.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Ar hyn o bryd, Only You gan Yazoo achos mae'n GYMAINT o classic ac yn grêt i ganu gyda fe yn y car.

Ffynhonnell y llun, Ebet Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Only You ei ryddhau yn 1982 gan Yazoo

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf Indiaidd cymysg - pabdi chaat, chops cig oen, chilli paneer, poppadoms, picls.

Prif gwrs - butter chicken, tarka daal, brinjal bhaji, reis a peshwari naan.

Pwdin - Tarten afal a hufen iâ fanila.

Dwi'n llwgu ar ôl sgrifennu hwn!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Beyoncé neu falle cath.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Chisomo Phiri

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw