Dyn gydag anafiadau difrifol i'w ben yng nghanol Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol i'w ben ar ôl digwyddiad yn Abertawe yn ystod oriau mân fore Sul.
Daeth aelodau o'r cyhoedd o hyd i'r dyn 21 oed ar Ffordd Portland yng nghanol y ddinas tua 01:55.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Treforys mewn ambiwlans cyn cael ei drosglwyddo i'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd.
Dywed Heddlu'r De eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio am dystion.