Gwahardd cwmni am roi tocynnau parcio heb brawf

  • Cyhoeddwyd
Dyn ag arwyddion
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd arwyddion eu rhoi i archwilwyr heb unrhyw wirio

Mae cwmni tocynnau parcio preifat wedi caniatáu i ddirwy gael ei rhoi heb i'r profion gwirio priodol gael eu gwneud, yn ôl ymchwiliad cudd gan y BBC.

Fe anfonodd cwmni All Parking Services arwyddion i newyddiadurwyr heb unrhyw brawf adnabod ac fe arweiniodd hynny at ddirwy o £100 i berchennog car am barcio yng Nghasnewydd.

Mae'r cwmni bellach wedi cael ei wahardd gan y DVLA ac mae Cymdeithas Barcio Prydain (BPA) yn ymchwilio i'r mater.

Dywedodd All Parking Services eu bod yn cydweithredu â'r ymchwiliadau, a dyw'r cwmni ddim bellach â'r hawl i ddosbarthu tocynnau.

Gwasanaethau 'hunan-dicedu'

Fe wnaeth rhaglen X-Ray BBC Cymru ganfod bod cwmnïau yn cynnig gwasanaethau "hunan-dicedu" a bod landlordiaid yn cael plismona eu tir eu hunain drwy dynnu lluniau o geir oedd wedi parcio yno.

Byddai cwmnïau wedyn yn cael mynediad i ddata y DVLA ac yn cael rhoi tocynnau i yrwyr fyddai'n troseddu, gan gynnig cymhellion ariannol am bob tocyn.

Fe wnaeth yr ymchwiliad ddarganfod bod cwmni Park Watch o Gaer ddim wedi gwneud unrhyw gais am dystiolaeth o berchnogaeth tir ac roedd cyfeiriad ffug hefyd wedi cael ei roi.

Yn ogystal, fe wnaethon nhw ofyn am fap o'r ardal ac fe dderbynion nhw lun sgrin o Google Maps gyda llinell wedi'i thynnu â llaw o'i amgylch - gwnaed hefyd apwyntiadau i osod arwyddion a oedd wedi costio £200.

Anfonodd All Parking Services o Fanceinion arwyddion yn y post heb wirio adnabyddiaeth neu'r hawl i rannu tocynnau.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gyrrwr y car yma ddirwy wedi i arwydd gael ei osod y tu ôl iddo yng Nghasnewydd

Cafodd un o'r arwyddion ei osod y tu ôl i gar wedi parcio yng Nghasnewydd - roedd ymchwilwyr yn defnyddio app i gynnwys manylion am lle'r oedd y car i fod wedi parcio ac i roi amser y drosedd honedig.

Roedd y DVLA yna yn anfon tocyn parcio £100 i'r gyrrwr yn y post.

Roedd y ddau gwmni wedi cael sêl bendith y BPA ac roedd gofyn iddyn nhw ufuddhau i god ymarfer.

Ystyried sancsiynau

Dywedodd Jack Cousens, pennaeth plismona ffyrdd yr AA: "Dylai rhywun fod wedi dweud nad oes gennym y dogfennau priodol, allwn ni ddim rhoi'r hawl i chi barhau.

"Dylai'r rhai sy'n goruchwylio'r cod ymarfer reoleiddio cwmnïau sydd yn eu gofal yn well a gwneud yn siŵr bod y gwaith gwirio yn digwydd cyn iddyn nhw sefydlu eu safleoedd."

Dywedodd Park Watch, enw masnachol Defence Systems Ltd, y bydden nhw wedi gwneud pob archwiliad angenrheidiol ar ei manylion adnabod cyn bod hawl ganddo i roi unrhyw docyn.

Mae'r BPA yn ymchwilio ac yn ystyried sancsiynau a allai arwain at wahardd cwmnïau.

Maen nhw hefyd yn bwriadu gwahardd cwmnïau rhag talu cymhellion ariannol i hunan-dicedwyr am bob tocyn y maent yn ei roi.

Bydd X-Ray ar BBC One Wales am 19:30 ddydd Llun, 14 Hydref.